Mae’r newyddion bod hufenfa ym Môn yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn “hynod drist”, yn yr ôl yr Aelod o’r Senedd dros yr ynys.
Roedd Hufenfa Mona, sydd â ffatri gaws ger Gwalchmai ar yr ynys, eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n wynebu trafferthion ariannol ac nad oes modd i bethau barhau fel ag y maen nhw.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywed Hufenfa Mona fod Anthony Collier a Phil Reynolds o FRP Advisory wedi cael eu penodi’n gyd-weinyddwyr ers Mehefin 7.
Ar hyn o bryd, mae’r gweinyddwyr yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael i’r ffatri, agorodd yng Ngwalchmai ddwy flynedd yn ôl i gynhyrchu amrywiaeth o gawsiau.
‘Cyfnod anodd iawn’
Dywed Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn, fod yn rhaid ceisio “dod i waelod yr hyn sydd wedi mynd o’i le”.
“Mae’n gyfnod anodd iawn i gyflenwyr llaeth, rwyf wedi bod mewn cysylltiad gyda nifer ohonynt dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy’n gwybod eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gadael lawr, fel y mae’r staff hefyd,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni geisio dod i waelod yr hyn sydd wedi mynd o’i le, ac ystyried yr holl opsiynau posibl ar gyfer adfywio a chefnogi’r busnes.
“Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sut maen nhw’n bwriadu ymyrryd, ond nid wyf wedi derbyn ateb eto.
“Byddaf yn parhau i wneud ymholiadau ar frys, ac yn darparu unrhyw ddiweddariadau cyn gynted â phosibl.
“Yn y cyfamser, rwy’n annog unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y newyddion yma ac sydd angen cymorth i gysylltu â fy swyddfa.”