Wrth i Senedd Catalwnia ymgynnull heddiw (dydd Llun, Mehefin 10) am y tro cyntaf ers etholiadau’r wlad, does dim ymgeisydd clir ar hyn o bryd i fod yn Llefarydd nesa’r senedd.
Bydd aelodau’n pleidleisio’n ddienw yn ystod y sesiwn am 4 o’r gloch heddiw.
Enillodd y Sosialwyr 42 o seddi, ond roedd gan y pleidiau annibyniaeth 59 rhyngddyn nhw, ac maen nhw’n awyddus i gymryd rheolaeth.
Mae Junts per Catalunya, Esquerra Republicana a’r CUP yn gobeithio denu Comuns Sumar atyn nhw i greu arweinyddiaeth asgell chwith.
Yn ystod y sesiwn heddiw, bydd aelodau hefyd yn pleidleisio dros ddau Ddirprwy Lefarydd a phedwar ysgrifennydd.
Y Llefarydd sy’n penderfynu pa bynciau sy’n cael bod yn destun dadl yn y senedd, a phwy sy’n cael bod yn Arlywydd, felly mae pa blaid mae’r Llefarydd yn ei chynrychioli’n hanfodol bwysig i bob plaid.
Ymgeiswyr posib
Mae’r blaid asgell dde Vox eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi ymgeisydd o unrhyw blaid arall.
Mae’n bosib y gallai’r Sosialwyr enwebu’r ysgrifennydd presennol Ferran Pedret.
Mae’n debygol ar hyn o bryd y bydd Junts ac Esquerra yn cefnogi ei gilydd, ac yn gobeithio denu cefnogaeth Sumar hefyd.
Mae Sumar eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n barod i gefnogi Esquerra, ond ar yr amod eu bod nhw hefyd yn cael cefnogaeth y Sosialwyr.
Ond mae’r CUP yn dweud na all y Sosialwyr lenwi’r swyddi.
Y bleidlais
Rhaid cael mwyafrif er mwyn dod yn Llefarydd, ond os nad yw hynny’n bosib yn dilyn y bleidlais gyntaf, bydd ail bleidlais yn cael ei chynnal.
Rhaid cynnal dadl arlywyddol wedyn o fewn deng niwrnod gwaith – y dyddiadau hwyraf y gall gael ei chynnal yw Mehefin 25 a 26.
Bydd gan aelodau ddau gyfle i bleidleisio yn ystod y cam cyntaf hwn – mae angen mwyafrif absoliwt yn y bleidlais gyntaf (o leiaf 68 o bleidleisiau), tra mai mwyafrif yn unig sydd ei angen yn yr ail bleidlais – hynny yw, mwy o bleidleisiau o blaid nag yn erbyn.
Os na fydd ymgeisydd yn dod i’r swydd ar y pwynt yma, bydd swyddogion deddfu a phleidiau’n dechrau o’r dechrau ac yn cael deufis i geisio ennyn digon o gefnogaeth i un ymgeisydd.
Os na fydd ymgeisydd clir ar ôl deufis, bydd rhaid diddymu’r Senedd a chynnal etholiadau 47 diwrnod yn ddiweddarach, allai olygu cynnal etholiadau ym mis Hydref.