Mae byddinoedd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Dyna i chi gynllun arfaethedig y Torïaid i orfodi pobol ifanc i wneud Gwasanaeth Cenedlaethol yn y dyfodol, Sunak yn rhoi ei droed ynddi trwy adael seremoni coffáu D Day i wneud cyfweliad teledu, a Biden a Macron yn pwysleisio eu cefnogaeth i fyddin Wcráin – gyda Macron yn mynd mor bell ag awgrymu y gellid danfon milwyr o Ffrainc i Wcráin.
Ac yna, ddydd Gwener, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig fod Israel yn mynd i gael ei chynnwys ar restr ddu gwledydd sy’n niweidio plant mewn parthau rhyfel. Mae hyn yn un condemniad arall i’w ychwanegu at y nifer cynyddol o gondemniadau sy’n pentyrru yn erbyn Israel – o gael ei harchwilio gan y Llys Iawnderau Ryngwladol am hil-laddiad ac o gael gwarantau wedi’u cyhoeddi gan y Llys Troseddau Rhyngwladol i arestio Benjamin Netanyahu a Yoav Gallant am droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn y ddynolryw. Daw hyn ar gynffon penderfyniad Sbaen, Norwy ac Iwerddon i gydnabod bodolaeth gwladwriaeth Palesteina yn swyddogol. Mae’n debyg y bydd nifer o wledydd eraill yn dilyn eu harweiniad cyn bo hir (gan gynnwys gwledydd Prydain, os gwneith Llafur ennill yr etholiad cyffredinol a chadw at yr addewid yn eu maniffesto).
Ymatebodd arweinwyr Israel yn chwyrn i’r cyhoeddiad o gael eu cynnwys ar y rhestr. Cafodd fideo o Gilad Erdan, Llysgennad Israel yn y Cenhedloedd Unedig, ei gyhoeddi ar X (Twitter gynt), lle mae’n beirniadu penderfyniad “gwarthus” Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac yn datgan “You know that Israel’s army is the most moral in the world”. Cafodd yr ymadrodd “y fyddin fwyaf moesol yn y byd” ei ddefnyddio gan Netanyahu hefyd wrth iddo yntau feirniadu’r penderfyniad.
Cyfaddefiad! Doeddwn i ddim yn gwybod mai byddin Israel, yr IDF, yw’r ‘fyddin fwyaf moesol yn y byd’, er bod hynny cael ei honni’n aml gan ei chefnogwyr. Dw i ddim yn meddwl bod Antonio Guterres a’i staff yn ‘gwybod’ hynny chwaith. Nac, yn ogystal, y niferoedd cynyddol ar draws y bydd sydd wedi’u harswydo gan fileindra ymosodiadau’r IDF ar drigolion llain Gaza a’r niferoedd cynyddol o’r boblogaeth sifil sy’n cael eu lladd yno.
Y cwestiwn sy’n codi yn sgil y datganiadau ynglŷn â moesoldeb yr IDF ydy hyn: A ydy Gilad Erdan a Benjamin Netanyahu a’u tebyg wirioneddol yn credu mai’r IDF ydy’r fyddin fwyaf moesol yn y byd, neu ai rhan o strategaeth bropaganda ydy hyn? A beth am aelodau’r gymdeithas Israelaidd ehangach? Ydyn nhw’n credu mai hi ydy’r fyddin fwyaf moesol yn y byd? Y dystiolaeth ydy, eu bod nhw, gan fwyaf, yn credu hynny. Ond draw yn yr Unol Daleithiau, mae’n ymddangos bod newid yn y gwynt, gan fod Iddewon ifainc yno wedi dechrau troi yn erbyn y myth o’r IDF fel ‘y fyddin fwyaf moesol yn y byd’.
Nos Wener ddiwethaf yn Theatr Seilo Caernarfon (cyn iddi gael ei rhyddhau’n eang ar blatfformau megis Apple TV a Google TV), cafodd y ffilm ddogfen Israelism ei dangos. Mae’n dilyn hanes dau o Iddewon ifainc o’r Unol Daleithiau, Simone Zimmerman a chyn-aelod o’r IDF sy’n cael ei adnabod fel Eitan, gafodd eu codi mewn cyd-destun Iddewig traddodiadol i fod yn gefnogwyr brwd, di-amheuaeth o Israel ac yn enwedig o’r IDF. Yn y ffilm, maen nhw’n sôn am eu magwraeth a’r modd y cawson nhw eu codi o oed cynnar i gredu bod Israel yn rhyw wlad berffaith ac mai trysor mwyaf y wlad oedd ei byddin. Maen nhw’n adrodd am sut y cawson nhw eu trwytho mewn gwersylloedd haf yn yr Unol Daleithiau i fod yn ddiamod gefnogol o’r wlad, gan ennyn dyhead ynddyn nhw i fynychu hyfforddiant milwrol yn Israel ac, yn achos Eitan, i ymuno â’r fyddin.
Ond yna daw’r dadrithiad. Oherwydd eu profiadau yn y fyddin, ac wrth iddyn nhw ddod i gysylltiad â Phalestiniaid a gweld eu dioddefaint, maen nhw’n dechrau amau’r naratif roedden nhw wedi’i glywed gan y cenedlaethau Iddewig hŷn yn yr Unol Daleithiau. Mae’r sylweddoliad eu bod wedi’u camarwain, wedi’u cyflyru i gredu rhywbeth sydd ddim yn wir, yn gryn ysgytwad iddyn nhw ac mae dod i delerau â hyn yn broses boenus.
Yn ogystal ag olrhain taith bersonol y ddau brif gymeriad yn y ffilm ddogfen, mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r to hŷn Iddewig yn yr Unol Daleithiau sy’n gwbl driw i Israel, a chlipiau o ddigwyddiadau lle mae Iddewon ifainc yn protestio (ac yn cael eu harestio am wneud hynny) yn erbyn gormes Israel ar y Palestiniaid.
Yr hyn sy’n dod drosodd yn gryf yn y ffilm ydy fod llawer iawn o Iddewon ifainc yn gweld ‘Israelism’ yn rhyw fath o gwlt militaraidd; cwlt y cawson nhw ei godi ynddo, ond cwlt maen nhw bellach yn benderfynol o’i wrthwynebu – a hynny heb droi eu cefnau ar eu Hiddewiaeth.
Mae chwyldro wedi dechrau ymhlith Iddewon ifainc yr Unol Daleithiau yn eu hagwedd tuag at Israel (fel ag y mae ymhlith ieuenctid yr Unol Daleithiau yn gyffredinol), ac mae’r ffilm bwerus hon yn dyst i’r newid pellgyrhaeddol hwnnw.
Mae’r ffilm bellach ar gael trwy blatfformau ffrydio megis Apple TV a Google TV. Cafodd ei rhyddhau ar Fehefin 7, ac mae hi eisoes wedi cyrraedd rhif un yn siart Ffilmiau Dogfen Apple TV.