Mae Plaid Cymru wedi addo ‘Bargen Newydd Werdd Gymreig’ yn rhan o’u hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Dywed Luke Fletcher, llefarydd economi ac ynni’r Blaid, y byddai Bargen Newydd Werdd Plaid Cymru yn “diogelu cymunedau yn ne Cymru rhag colli miloedd o swyddi yn y diwydiant dur”, ac yn creu “gwaith gwerthchweil, ystyrlon a theg” yn y sector gwyrdd a’r sector sero-net i adeiladu “economi ffyniannus” ledled Cymru.

Mae cwmni Tata Steel yn bwriadu cau’r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Medi.

Bydd ffwrnais bwa trydan newydd gwerth £1.25bn, sy’n toddi dur sgrap, yn dechrau cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot yn ystod haf 2025.

Mae disgwyl i bron i 2,800 o swyddi gael eu colli pe bai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaenau, sy’n cyfateb i hanner gweithlu’r ffatri.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau dros gadw’r gallu i gynhyrchu dur craidd yng Nghymru, ac wedi gwrthwynebu’n chwyrn gynlluniau presennol Tata i gau ei ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot.

Os na fydd hyn yn bosib, mae’r blaid yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio opsiynau ar gyfer prynu’r gwaith yn orfodol tra bod opsiynau ar gyfer y dyfodol ar gyfer cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd – gan gynnwys drwy ddisodli glo â hydrogen gwyrdd – yn cael eu datblygu.

‘Gweledigaeth glir’

Bydd Luke Fletcher yn ymuno â Rhun ap Iorwerth heddiw (dydd Llun, Mehefin 10) ar lwybr yr ymgyrch yn Aberafan Maesteg, sef yr etholaeth lle mae gweithfeydd Tata Steel.

“Mae economi Cymru yn cael ei dal yn ôl gan bleidiau San Steffan,” meddai Luke Fletcher.

“Ac eto ar ôl 14 mlynedd o lymder Torïaidd a 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur Gymreig, nid yw Starmer yn cynnig y weledigaeth obeithiol mae dirfawr ei hangen ar Gymru.

“O filoedd o swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda sydd mewn perygl yn ne Cymru, i fethiant San Steffan i roi’r pwerau sydd eu hangen ar Gymru i fod yn gyfrifol am ein tynged economaidd ein hunain – rydyn ni’n gwybod nad yw hyn cystal ag y gall fod.

“Mae gan Blaid Cymru weledigaeth glir o ran diogelu’r swyddi hyn trwy drawsnewidiad cyfiawn, a cheisio pwerau dros ein hadnoddau naturiol i helpu Cymru i ddatgloi ei photensial gwyrdd.

“Mae cymunedau ym Mhort Talbot a’r cyffiniau yn gwybod yn well na neb nad oes gan Lafur na’r Torïaid gynllun i fywiogi ein heconomi.

“Nid yw’r naill blaid na’r llall na’u priod lywodraethau wedi dangos unrhyw gyfeiriad gwirioneddol o ran achub y miloedd o swyddi sydd mewn perygl yn sgil penderfyniadau Tata, nac unrhyw bolisïau ehangach i gefnogi pontio cyfiawn.

“Mae Bargen Newydd Werdd Gymreig Plaid Cymru yn nodi gweledigaeth gyffrous Plaid Cymru ar gyfer economi werdd Cymru.

“Nid yn unig yr ydym yn gosod cynlluniau i ddiogelu cymunedau yn ne Cymru rhag colli miloedd o swyddi yn y diwydiant dur, ond mae gennym uchelgais i greu gwaith gwerthchweil, ystyrlon a theg sy’n dod i’r amlwg yn y sector gwyrdd a sero-net i adeiladu economi ffyniannus.

“Ar Orffennaf 4, mae gan bobol Cymru gyfle i ethol Aelodau Seneddol Plaid Cymru i frwydro ar eu rhan yn San Steffan, ac i fynnu’r pwerau sydd eu hangen arnom i ddatgloi ein potensial fel gwlad.”