Mae’r Ceidwadwyr wedi tynnu eu cefnogaeth i Craig Williams yn ôl.

Daw hyn yn dilyn helynt betio, ar ôl i ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth Maldwyn a Glyndŵr gyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Mae Williams yn un o brif gydweithwyr Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a’r awgrym felly yw y byddai’n gwybod union ddyddiad yr etholiad cyn gosod y bet.

Mae e wedi bod dan bwysau i gamu o’r neilltu yn sgil yr helynt, ond doedd Sunak na’r Ceidwadwyr ddim yn gwneud sylw am hynny.

Wrth ymateb ar y pryd, dywedodd yr ymgeisydd ei fod e wedi gwneud “camgymeriad enfawr”.

Mae’r Comisiwn Gamblo yn cynnal ymchwiliad.

Cefndir

Daeth i’r amlwg fod Craig Williams wedi betio yn un o siopau Ladbrokes yn ei etholaeth ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol dridiau cyn y cyhoeddiad swyddogol.

Roedd e wedi betio £100, ac fe allai fod wedi ennill £500, ond daeth y bet i sylw’r cwmni, sydd â chyfrifoldeb i adrodd am achosion lle mae pobol sy’n agored i dwyll yn betio.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Craig Williams y bydd yn “cydymffurfio’n llawn” ag ymchwiliad y Comisiwn Gamblo i’w ymddygiad.

Gallai manteisio ar wybodaeth gyfrinachol er elw gael ei ystyried yn drosedd hefyd, ac fe allai ei ymddygiad gael ei ystyried yn achos o ddwyn anfri ar San Steffan.

Cafodd Craig Williams ei benodi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn 2022.

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 2019, ar ôl cynrychioli etholaeth Gogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017 a cholli ei sedd i’r aelod Llafur Anna McMorrin.

Dydy Downing Street ddim wedi gwneud sylw am y mater, ond mae lle i gredu bod Craig Williams yno bron yn ddyddiol yn rhinwedd ei swydd gyda Rishi Sunak, gyda’r ddau’n cydweithio’n agos.

‘Gamblo â’n dyfodol’

Yn ôl Steve Witherden, ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholaeth, mae’r helynt yn “staen ar Blaid Geidwadol Rishi Sunak”.

“Yn hytrach na gweithredu, mae’r Prif Weinidog wedi petruso ers bron i bythefnos,” meddai.

“Mae pobol ledled Maldwyn a Glyndŵr yn haeddu Aelod Seneddol sy’n eu rhoi nhw’n gyntaf.

“Fydd Llywodraeth Lafur byth yn gamblo â’n dyfodol.”

‘Wythnosau i wneud y peth iawn’

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ei bod hi wedi cymryd “wythnosau i wneud y peth iawn”, ac mai dyna’r peth “normal i’w Llywodraeth ddi-drefn, llawn sgandal”.

“Mae’r Ceidwadwyr bellach allan o’r ras ym Maldwyn a Glyndŵr, ac mae Llafur wedi esgeuluso canolbarth Cymru erioed,” meddai.

“O ystyried bod y sedd wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol yn hanesyddol, dylai trigolion gefnogi ein hymgeisydd gwych, Glyn Preston, rŵan, ac yntau eisoes yn gynghorydd etholedig lleol sy’n gweithio’n galed.”

Ymateb Craig Williams

Ac yntau dan bwysau cynyddol, mae Craig Williams wedi cyhoeddi fideo yn ategu ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol.

Bydd ei enw’n dal i fod ar bapurau pleidleisio yn enw’r Ceidwadwyr, er eu bod nhw wedi tynnu eu cefnogaeth yn ôl.

O dan y fath amgylchiadau, gall ymgeisydd dynnu’n ôl o’r ras, sefyll fel ymgeisydd annibynnol neu ymuno â phlaid arall.

Yn y fideo, mae’n ailadrodd ei “gamgymeriad”, gan ofyn am gefnogaeth y cyhoedd yn yr etholiad.

Ychwanega ei fod yn cydymffurfio ag ymchwiliad y Comisiwn Gamblo

Cwestiynau ynghylch ymgeisydd seneddol Ceidwadol o hyd

Y Blaid Geidwadol dan y lach am ddiffyg gweithredu ar ôl i Craig Williams gyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol