Cafodd y rali ddiweddaraf yn galw am annibyniaeth i Gymru ei chynnal ddydd Sadwrn (Mehefin 22) yng Nghaerfyrddin.

YesCymru a Pawb Dan Un Faner oedd yn gyfrifol am drefnu’r orymdaith, a daeth miloedd o bobol ynghyd yno i wrando ar siaradwyr gan gynnwys Mererid Hopwood, Dafydd Iwan, Beth Winter, Cefnin Campbell a Gwynoro Jones.

Dyma gasgliad o luniau o’r achlysur gan Lleucu Meinir…

Daeth miloedd ynghyd i’r annibyniaeth Caerfyrddin ddydd Sadwrn, Mehefin 22
Yr ifanc yn mwynhau eu hunain
Cŵn dros annibyniaeth?
Roedd yr orymdaith yn dilyn rhai ym Mangor ac Abertawe’r llynedd
Roedd Merched Beca yn ysbrydoliaeth fawr i’r rali, ddaeth ynghyd ym Mharc Caerfyrddin ar ôl yr orymdaith
Gwynoro Jones, y cyn-Aelod Seneddol Llafur, yn annerch y rali
Dafydd Iwan yn rhoi araith ar y diwrnod
Gwilym Bowen Rhys yng ngwisg Merched Beca, cyn iddo berfformio