Dim ond 24 awr sydd ar ôl i bleidleisiwr wneud cais am ID pleidleisio am ddim cyn yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos nesaf.

Dangosa ymchwil newydd gan Gomisiwn Etholiadol Cymru fod 84% o bobol ledled Cymru’n gwybod fod angen iddyn nhw ddod ag ID ffotograffig i bleidleisio.

Dywed 96% ohonyn nhw fod ganddyn nhw o leiaf un math o ID.

I’r rhai sydd heb ID, mae gofyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn 5 o’r gloch brynhawn fory (dydd Mercher, Mehefin 26).

Yn ôl yr ymchwil, mae 70% o oedolion Cymru’n gwybod eu bod nhw’n gallu cael ID pleidleisiwr am ddim gan eu cyngor lleol, ac mae 2,500 o bobol yng Nghymru wedi gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr cyn yr etholiad ddydd Iau nesaf (Gorffennaf 4).

‘Ymwybyddiaeth yn uchel’

Dywed Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, fod ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr angen i ddangos ID yn uchel, a bod gan y mwyafrif o bobol ID yn barod.

“Ond ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw ID, mae’n bwysig iawn eu bod yn gwneud cais am yr ID pleidleisiwr am ddim cyn y terfyn cau,” meddai.

“Mae’r opsiwn o ID pleidleisiwr am ddim yn hanfodol i sicrhau hygyrchedd y system i bawb – peidiwch ag oedi gwneud cais os oes ei angen arnoch.”

Mae’n bosib gwneud cais am ID am ddim ar-lein, a bydd angen i bleidleiswyr ddarparu llun, enw llawn, dyddiad geni, y cyfeiriad maen nhw wedi’i gofrestru i bleidleisio, a’u rhif Yswiriant Gwladol.

Bu’n rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd fis diwethaf, ond dyma’r tro cyntaf i hynny orfod digwydd mewn Etholiad Cyffredinol.