Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) wedi dod i rym heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 25), ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.

Cafodd y ddeddfwriaeth ei phasio gan uwchfwyafrif o Aelodau’r Senedd ym mis Mai, gan greu Senedd fodern, fwy effeithiol i wasanaethu a chynrychioli pobol Cymru.

Yn sgil y gyfraith newydd, bydd gan y Senedd fwy o gapasiti i graffu ar bolisïau, deddfau a chynlluniau gwario, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Ymhlith y newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno cyn etholiadau’r Senedd yn 2026 mae:

  • 96 Aelod o’r Senedd, i’w hethol gan ddefnyddio system rhestrau caeëdig fydd yn gwbl gyfrannol.
  • Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu henwi ar y papurau pleidleisio.
  • 16 etholaeth yng Nghymru, a phob un yn ethol chwe Aelod o’r Senedd yr un.
  • Bydd rhaid i bob Aelod o’r Senedd a phob ymgeisydd am sedd fod yn byw yng Nghymru.
  • Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.
  • Mae ymrwymiad hefyd, ar ôl etholiad 2026, i adolygu’r newidiadau yn sgil y Ddeddf ac i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd.

‘Moment hanesyddol’

“Mae hon yn foment hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru.

“Yn ystod y 25 mlynedd ers datganoli, mae’r Senedd wedi cael mwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys pwerau deddfu ac amrywio trethi, ond does dim twf cyfatebol wedi bod yn ei chapasiti – roedd rhaid i hynny newid.

“Bydd y diwygiadau hanesyddol hyn yn cael gwared ar y diffyg cydbwysedd er mwyn creu Senedd fodern sy’n adlewyrchu Cymru’r unfed ganrif ar hugain yn well.”

‘Tangynrychiolaeth’

“O’i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, Cymru sydd yn y sefyllfa waethaf o ran tangynrychiolaeth ar hyn o bryd,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru.

“Bydd y ddeddfwriaeth nodedig hon yn cryfhau ein democratiaeth er mwyn gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well – yn y Senedd ac mewn cymunedau ym mhob cwr o’r wlad.

“Cafodd y ddeddfwriaeth ei siapio yng ngwres proses graffu’r Senedd i sicrhau bod gan ein Senedd y gallu sydd ei angen arni i archwilio cyfreithiau, adolygu cynlluniau gwario a sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer pobol Cymru.”