Byddai mwy o aelodau Plaid Cymru yn San Steffan yn sicrhau “newid economaidd go iawn” i Gymru, yn ôl y Blaid.
Mae prif addewidion economaidd y blaid yn cynnwys:
- system ariannu deg i Gymru yn ôl yr angen.
- ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau
- galw am roi’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru trwy HS2 i’r wlad.
Yn ôl Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, byddai’r tair addewid yn sicrhau “tegwch economaidd i Gymru ac yn dwyn Llafur i gyfrif ar ran pobol Cymru”.
Ddoe (dydd Llun, Mehefin 24), fe wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) herio’r blaid Lafur a’r Ceidwadwyr am eu tawelwch dros gynlluniau ar gyfer yr economi a gwariant cyhoeddus.
‘Newid economaidd go iawn’
Bydd y bwlch gwariant o £18bn ym maniffesto’r Blaid Lafur yn arwain at bron biliwn o bunnoedd yn llai i Gymru – sy’n cyfateb i werth deng mlynedd o gyllid ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim i blant oedran cynradd.
Ers 2010, mae Cymru wedi gweld gwerth £3bn o doriadau oherwydd penderfyniadau a wnaed yn San Steffan.
“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n cynnig newid economaidd go iawn i Gymru yn yr etholiad hwn,” meddai Luke Fletcher.
“Mae’r Torïaid wedi chwalu’r economi ac mae Llafur wedi ymrwymo i o leiaf £18bn o doriadau – sy’n golygu biliwn o bunnoedd yn llai ar gyfer cyllideb Cymru. Tra bod Llafur yn gallu ail-ddweud ‘newid’ gymaint ag y mynnant – gwyddom fydd fwy o doriadau dan Starmer.
“Byddai addewidion Plaid Cymru yn golygu tegwch i Gymru – yn economaidd ac yn gymdeithasol. Maen nhw’n cynnwys model ariannu tecach yn seiliedig ar anghenion Cymru fel y gallwn fuddsoddi yn ein hysgolion, y gwasanaeth iechyd, ac yn ein cymunedau.”
Dywed hefyd mai Plaid Cymru yw’r unig blaid “sy’n onest am effaith Brexit ar economi Cymru” ac yn galw am ailymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.
“A ni yw’r unig blaid sy’n mynnu i ddychwelyd biliynau coll Cymru o brosiect HS2 Lloegr er mwyn buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth ac economïau lleol,” meddai wedyn.
“Er bod y Torïaid a’r Blaid Lafur yn hapus i weld gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu chwalu a chyllidebau aelwydydd yn cael eu gwasgu hyd yn oed ymhellach, mae Plaid Cymru yn brwydro am degwch economaidd yn yr etholiad hwn fel yr unig blaid sydd ddim yn cymryd pleidleisiau Cymru yn ganiataol.
“Ni fydd San Steffan yn poeni am Gymru oni bai bod Aelodau Seneddol yn sefyll dros fuddiannau Cymru ar bob cyfle – yn lle canu i’r un ddalen emynau â Starmer.”