Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) yn cyhuddo’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr o anwybyddu “dewisiadau ariannol anodd” yn eu maniffestos.
Yn ôl dadansoddiad yr IFS o faniffestos y prif bleidiau, bydd hi’n “syndod mawr” os nad yw trethi’n cael eu codi dros y bum mlynedd nesaf.
Dywed Plaid Cymru fod y dadansoddiad yn “cadarnhau’r hyn” mae eu plaid wedi bod yn ei ddweud ers tro – bod maniffestos Llafur a’r Ceidwadwyr yn “dangos yn glir fod pleidlais i’r naill blaid yn bleidlais am fwy o’r un peth – toriadau”.
Mae’r pleidiau’n “osgoi” cydnabod penderfyniadau’n ymwneud â chyllid cyhoeddus, medd yr IFS.
‘Anwybyddu’ ffeithiau
Ar hyn o bryd, mae dyled y Deyrnas Unedig yn uwch nag y bu ers 60 mlynedd, mae trethi’n uwch nag erioed, ac mae gwariant wedi cynyddu, ond mae gwasanaethau cyhoeddus “yn amlwg yn dioddef”, medd yr IFS.
Tra bo’r Llywodraeth yn talu llog uchel ar ddyledion a biliau llesiant wedi cynyddu, mae’n debyg y bydd rhaid gwario mwy ar iechyd gan fod y boblogaeth yn heneiddio. Mae gwariant ar iechyd yn debyg o gynyddu hefyd, medd y felin drafod.
Dydy’r economi ei hun ddim yn tyfu, fodd bynnag.
“Mae’r ffeithiau amrwd hyn yn cael eu hanwybyddu gan y ddwy brif blaid yn eu maniffestos,” meddai Paul Jackson, cyfarwyddwr yr IFS.
“Bydd rhaid gwneud penderfyniadau mawr am faint a siâp y wladwriaeth, a bydd y penderfyniadau hynny, yn ôl pob tebyg, yn golygu trethi uwch neu wasanaethau cyhoeddus gwaeth – ond fyddech chi byth yn gesio hynny o ddarllen eu cynigion neu wrando ar eu haddewidion.
“Maen nhw wedi methu hyd yn oed cydnabod rhai o’r materion a’r dewisiadau pwysicaf i’n hwynebu ni ers amser hir iawn.
“Wrth i’r boblogaeth heneiddio, bydd y penderfyniadau hyn yn dod yn anoddach, nid haws.”
Mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dweud na fyddan nhw’n cynyddu’r dreth incwm, Yswiriant Cenedlaethol na’r Dreth ar Werth, ond mae Paul Jackson wedi beirniadu’r penderfyniad hwnnw.
‘Mwy o doriadau’
Wrth ymateb i’r dadansoddiad, dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, nad yw’r pleidiau’n bod yn onest am gyflwr yr economi.
“Mae’r IFS yn cadarnhau’r hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn dweud ers tro – mae maniffesto Llafur a’r Ceidwadwyr yn dangos yn glir fod pleidlais i’r naill blaid yn bleidlais am fwy o’r un peth: toriadau,” meddai.
“Nid yw’r naill blaid yn fod yn onest gyda phleidleiswyr am gyflwr dygn yr economi, a bydd bwlch gwariant y ddau faniffesto yn golygu gall Gymru golli allan ar biliwn neu’n fwy.
“Mae Plaid Cymru yn gwybod mae nid hyn yw’r gorau sydd i Gymru.
“Yr etholiad hwn, rydym yn cynnig newid gwirioneddol i Gymru.
“Ni yw’r unig blaid sy’n galw am gyllid teg i Gymru i greu tegwch economaidd a chymdeithasol, er mwyn adeiladu cenedl decach a fwy uchelgeisiol.”
Doedd y dadansoddiad ddim yn ystyried Plaid Cymru.
Y pleidiau eraill
Mae Paul Jackson yn fwy hael ei ganmoliaeth tuag at bolisïau’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n dweud eu bod nhw eisiau codi trethu gan £27bn i roi mwy o arian tuag at wasanaethau cyhoeddus a’r system fudd-daliadau.
Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn codi’r arian drwy drethu banciau, hedfan, cwmnïau ynni a thechnoleg mawr, codi trethi ar enillion cyfalaf a sicrhau bod llai o bobol yn osgoi talu trethi.
“Mae rhai syniadau da yma, ac eraill sydd ddim cystal,” meddai.
Wrth drafod Reform UK a’r Blaid Werdd, mae’r IFS yn eu cyhuddo o “wenwyno’r ddadl wleidyddol”.
“Ni fydd y polisïau maen nhw’n eu hamlinellu’n cael eu gweithredu,” meddai.
“Ond mae’r ffordd maen nhw’n awgrymu bod ganddyn nhw syniadau radical all, yn realistig, wneud gwahaniaeth cadarnhaol, pan fo’r hyn maen nhw’n gynnig tu hwnt i’w gyrraedd yn llwyr, yn helpu i wenwyno’r holl ddadl wleidyddol.”