Mae cymuned werdd yn Sir Benfro, sy’n gartref i ddeuddeg oedolyn a phedwar o blant, dan fygythiad yn sgil newid perchnogaeth.

Mae stiwardiaid Cydweithfa Dai Brithdir Mawr ger Trefdraeth yn anelu at fyw ochr yn ochr â byd natur, yn hytrach nag yn ei erbyn, ac yn cadw geifr, hwyaid, ieir a gwenyn, ac yn tyfu ffrwythau a llysiau.

Ers 30 mlynedd, mae’r gymuned yno wedi bod yn byw oddi ar y grid, ac maen nhw’n croesawu ymwelwyr atyn nhw i gael blas ar eu ffordd o fyw yn aml.

Ond mae newid perchnogaeth y tir yn golygu bod bygythiad i ddyfodol y gymuned.

Yn 2020, fe wnaeth Julian Orbach, landlord presennol a chyd-sylfaenydd y safle, addo y byddai gan y gymuned hyd at ddiwedd 2025 i ddod o hyd i’r arian i brynu’r tir.

Fodd bynnag, yn rhannol oherwydd rhesymau iechyd, mae bellach yn bwriadu gwerthu i rywun arall – er bod y gymuned yn dweud bod ganddyn nhw’r arian i’w brynu.

Mae’r darpar berchennog newydd yn bwriadu symud trigolion y gydweithfa dai o’u cartrefi er mwyn dechrau cymuned encilio ysbrydol yno, medd Cydweithfa Dai Brithdir Mawr.

‘Ddim yn deall unrhyw beth’

Dod ynghyd i weithio ar ffordd ymlaen fyddai’n gweithio i bawb fyddai’r ateb gorau, yn ôl William Cooke, aelod o Gymuned Brithdir Mawr.

“Yna gallem gronni ein holl egni ac adnoddau a gwneud rhywbeth gwir anhygoel,” meddai.

“Ond mae’r person yma sy’n ceisio prynu yn gwrthod ystyried gweithio gyda ni ar hyn o bryd. Mae’n teimlo fel nad ydyn nhw’n deall unrhyw beth am bwy ydyn ni.

“Nid oes neb yn ben yma; rydym yn gwneud y cyfan gyda’n gilydd. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n ffordd wych o fyw.”

‘Rhaid diogelu llefydd fel hyn’

Cafodd grŵp cymuned ei ffurfio’n ddiweddar i gefnogi’r gydweithfa dai drwy’r cyfnod hwn.

O dan yr enw Cyfeillion Brithdir, mae’r grŵp yn cynnwys pobol leol, cyn-aelodau, pobol sydd wedi bod yn gwirfoddoli yno yn y gorffennol a chyfeillion eraill.

“Dw i’n teimlo ei bod yn hanfodol cefnogi Cydweithfa Dai Brithdir Mawr, yn enwedig yn yr argyfwng tai presennol,” meddai Heather Sanderson, sy’n aelod o’r grŵp.

“Mae cymuned yn hollbwysig, ac mewn byd lle mae llawer yn byw bodolaeth drwy gopïo eraill mae hwn yn noddfa i greadigrwydd, yn rhydd o ddogma neu hierarchaeth.

“Mae’n rhaid i ni ddiogelu llefydd fel hyn.”

Ychwanega fod y grŵp yn dal i deimlo’n gadarnhaol, a’u bod nhw’n obeithiol.

“Rydyn ni’n parhau i fod yn agored ac yn obeithiol y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd, yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio radical sy’n gonglfaen i’n gwerthoedd cymunedol presennol,” meddai’r gymuned mewn e-bost ddiweddar at y darpar brynwr newydd.

“Mae’r gymuned yma wedi’i hadeiladu ar gefnogi ein haelodau i ddod â’u hegni, doniau a galwadau gwahanol i’r tir yma. Ein cryfder yw cofleidio’r amrywiaeth honno.

“Mae natur a’r bydysawd yn ei holl ddirgelwch yn brydferth o ganlyniad i symbiosis cydweithredol. Gadewch i ni ddangos hynny ym Mrithdir Mawr.”

Sesiynau adolygu yn Sir Benfro i helpu’r rhai sy’n dysgu Cernyweg

Alun Rhys Chivers

Mae Y Lle Dysgu yn Nhrefdraeth yn cynnal sesiynau adolygu i bobol sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg, Cernyweg a Gwyddeleg