Mae gan y Ceidwadwyr gwestiynau i’w hateb ynghylch pam fod Craig Williams yn dal yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl y Blaid Lafur.
Mae’r ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer sedd Maldwyn a Glyndŵr wedi cyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol, yn groes i’r rheolau.
Ac yntau’n un o brif gydweithwyr Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae amheuon y byddai’n gwybod union ddyddiad yr etholiad wrth osod y bet.
Yn ôl Craig Williams, roedd e wedi gwneud “camgymeriad”, ond dydy e ddim wedi camu o’r neilltu er bod y Comisiwn Gamblo yn dweud eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad.
‘Syfrdanol’
Dywed Jonathan Ashworth, Tâl-feistr Cyffredinol Cysgodol Llafur, nad yw’r Ceidwadwyr eto wedi egluro pam fod Craig Williams yn parhau’n ymgeisydd seneddol.
“Mae’n hollol syfrdanol na all rhes o weinidogion ateb cwestiynau sylfaenol ynghylch sgandal betio’r Torïaid,” meddai.
“Bydd pleidleiswyr yn gofyn iddyn nhw eu hunain pam ar wyneb y ddaear fod Rishi Sunak wedi gwrthod gweithredu – er bod ei ymgeisydd ei hun sy’n gynghorydd agos wedi ymddiheuro am ei ran yn y ffars yma.
“Mae’r cyhoedd yn haeddu atebion heddiw.
“All y Prif Weinidog ddim parhau i guddio.
“Rhaid iddo fod yn onest a dweud wrth bleidleiswyr pa mor ddwfn yw’r sgandal yma: faint o ymgeiswyr Torïaidd – gan gynnwys aelodau’r Cabinet – sydd ynghlwm, a phryd gafodd e wybod?
“Os caiff y Ceidwadwyr bum mlynedd arall, bydd yr anhrefn jyst yn parhau.
“Mae newid gyda Llafur yn nwylo’r bobol os ydyn nhw’n pleidleisio drosto ar Orffennaf 4.”