Mae’r Comisiwn Gamblo yn gofyn i bob bwci am wybodaeth am bob bet sylweddol (allai arwain at wobr dros £199) yn ystod tair wythnos gyntaf mis Mai oedd yn dyfalu dyddiad cywir yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Daw hyn ar ôl i Craig Williams, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr ym Maldwyn a Glyndŵr, gyfaddef betio ar gynnal yr etholiad ym mis Gorffennaf.
Fel un o brif gydweithwyr Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae’n debyg ei fod e wedi cael gwybod yr union ddyddiad ddyddiau’n unig cyn gosod y bet gyda bwci Ladbrokes yn Sir Drefaldwyn.
Mae Rishi Sunak yn dweud ei fod e’n “siomedig” ynghylch ymddygiad Craig Williams yn dilyn yr honiadau am y bet yn The Guardian.
Ond dydy Williams na Sunak ddim wedi cadarnhau a oedden nhw wedi trafod yr union ddyddiad cyn i’r bet gael ei osod.
Mae’n debyg fod Craig Williams wedi betio £100 y byddai’r etholiad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf, a chafodd y Comisiwn Gamblo wybod gan Ladbrokes am y bet.
Yn ôl Williams, roedd e wedi gwneud “camgymeriad enfawr” wrth osod y bet.
Dydy’r Comisiwn Gamblo ddim wedi gwneud sylw am yr honiadau yn erbyn Craig Williams, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gwynion.
Mae’r gwrthbleidiau’n galw am gosbi Craig Williams a’i daflu allan o’r etholiad.