Flwyddyn ers iddo ddechrau arwain Plaid Cymru, mae Rhun ap Iorwerth wedi cael ei ganmol gan ymgeisydd seneddol y Blaid yng Nghaerfyrddin.
Wrth siarad â golwg360, dywed Ann Davies mai cyfathrebu ydy cryfder yr arweinydd presennol, tra mai polisi oedd cryfder ei ragflaenydd Adam Price.
Daw ei sylwadau ar ôl i Blaid Cymru lansio’u maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Mehefin 13).
Dywed Ann Davies fod y lansiad yn un llwyddiannus oherwydd ei fod “yn dod â phobol at ei gilydd i osod stondin Plaid Cymru o ran cael tegwch, ac i ddangos yr uchelgais sydd gyda’r Blaid i Gymru”.
‘Llond bol o’r Torïaid’
Fe fu Ann Davies, sy’n gynghorydd sir yng Nghaerfyrddin, yn ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol ers mis Ionawr.
Dywed fod yr ymateb mae hi wedi’i gael ar stepen y drws yn glir.
“Maen nhw wedi cael llond bol o’r Torïaid,” meddai.
“Ac wedi cael llond bol o shenanigans y Blaid Lafur yma yng Nghaerdydd.
“Mae’r polau piniwn yn adlewyrchu hyn, ac mae’n gyfle gwych i ni gael sedd Caerfyrddin.”
Mae etholaeth Caerfyrddin yn un newydd, sy’n deillio o uno hen etholaethau Dwyrain a Gorllewin Caerfyrddin.
“Dw i eisiau gyrru neges o sir sydd yn unedig – mae’r dwyrain a’r gorllewin nawr yn dod at ei gilydd,” meddai wedyn.
“Dw i’n byw reit yng nghanol y sir, ar y ffin i’r dwyrain a’r gorllewin, a dyna le dw i wedi bod drwy fy oes.
“Pwy gwell ydych chi’n mynd i’w gael i dynnu pobol at ei gilydd?”
Bydd cylchgrawn Golwg yn edrych yn fanylach ar etholaeth Caerfyrddin yr wythnos nesaf.
Blwyddyn ers i Rhun ap Iorwerth ddod yn arweinydd
Flwyddyn union, bron, ers i Rhun ap Iorwerth ddod yn arweinydd Plaid Cymru (Mehefin 16, 2023), dywed Ann Davies ei fod wedi gwneud “jobyn gwych” o ddangos, yn ystod yr ymgyrch a thrwy gydol y flwyddyn, pa mor dda yw ei sgiliau cyfathrebu.
“Cryfder Adam Price oedd polisi, yn bendant,” meddai.
“Mae meddwl mor chwim gyda fe.
“A chryfder Rhun ydi cyfathrebu, a dyna beth oedd ei eisiau arnom ni.
“Mae’r polisïau yn eu lle.
“Beth oedd ei eisiau oedd rhywun sydd â’r gallu i gyfathrebu hwn i bawb yng Nghymru, a dyna yw cryfder Rhun.
“Mae e’n dod â phobol gyda fe.”
‘Pobol ydy gwleidyddiaeth’
Wrth drafod y ddadl rhwng y saith prif blaid yr wythnos ddiwethaf, dywed Ann Davies nad yw’n syndod fod “pobol wedi syrffedu”.
Cyfeiria’n benodol at Angela Rayner (Llafur) a Penny Mordaunt (Ceidwadwyr), ar ôl iddyn nhw ddirprwyo dros Syr Keir Starmer a Rishi Sunak a siarad ar draws yr ymgeiswyr eraill yn gyson.
“Dim hynny ydy gwleidyddiaeth,” meddai Ann Davies.
“Pobol ydy gwleidyddiaeth.”