Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Yr awdur ac ymgyrchydd iaith, Angharad Tomos, sy’n agor y drws i’w chartref ym Mhenygroes ger Caernarfon yr wythnos hon…


Dim ond unwaith rydw i wedi symud tŷ – sydd ddim yn ddrwg mewn trigain mlynedd. Magwyd fi yn Llanwnda i deulu o saith, a symudais i Benygroes, rhyw dair milltir i ffwrdd, ym 1994. Ffordd Haearn Bach ydi’r cyfeiriad ac roedd cael tŷ i mi fy hun yn dipyn o newid. Doedd Penygroes ddim yn ddieithr. Yma y deuthum i’r Ysgol Sul, ac i’r ysgol, Ysgol Dyffryn Nantlle. Hen reilffordd efo ceffylau yn tynnu wagenni llechi o’r chwareli i Gei Caernarfon ydi hi. Rydw i wedi peintio llinell gan T.H.Parry Williams ar ochr y tŷ, ac mae’r weiren yn gweddu i weddill y weiars yn y stryd!

Y llinell gan T H Parry Williams ar ochr y tŷ

Dyma’r olygfa wrth i mi gamu allan drwy’r drws. Mae’r gwartheg yn f’atgoffa nad oes angen rhuthro, bod bywyd yn gallu bod yn ddigon hamddenol. Capel Bethel (MC) sydd yn y cefndir, wedi cau, a’i droi yn fflatiau.

Yr olygfa o’r drws ffrynt

Wrth ddod drwy’r drws, fe welwch y ddesg dw i’n gweithio arni. Dyma ei chyflwr arferol – yn llawn papurau. Rydw i ar ganol rhoi trefn ar luniau a hanes y teulu, felly nid fy llanast i ydyw, ond llanast yr Oes o’r Blaen! Dydw i heb newid fawr ar y tŷ…pan briodais a chael plentyn, doedd un stafell ddim yn ddigon, felly dyma droi’r atig yn llofft.

Desg Angharad

‘Hon yw fy ffenest’ ddywedodd Waldo, ond mae’n olygfa braf i edrych arni,  a gweld pwy sy’n cerdded heibio. Mae llawer gormod o lyfrau yma, ond o leiaf erbyn hyn dw i wedi dysgu eu pasio ’mlaen i eraill yn lle eu casglu.

Yr olygfa drwy’r ffenest

Fy hoff gadair yw hon sydd yn y gornel, ac mi welwch mod i’n hoff o William Morris. Ar y gadair mae blanced wlân a gefais ar fy mhen-blwydd yn 60 gan ddwy ffrind bore oes. Ar y wal, mae clawr ‘Wele’n Gwawrio’, fu’n glawr i un o’m llyfrau, ac ar y dde mae pluen o waith Ann Catrin a gefais yn rhodd gan Gymdeithas Lenyddol Penygroes ym 1991.

Hoff gadair Angharad

Fy hoff waith celf yw hon gan Teresa Pierce (efo hi wnes i weithredu gyntaf efo Cymdeithas yr Iaith). Mae wedi ei seilio ar linellau Gwenallt am feirdd, ac athrawon Ysgol Sul yn cael eu chwythu gan y gwynt, a’u golchi efo’r glaw. Fi beintiodd y stribyn ar y top, i gopïo William Morris!

Ei hoff waith celf gan Teresa Pierce

Hwn ydi’r llun ar fy nesg, sy’n ysbrydoliaeth ddyddiol, gyda neges sydd yr un mor berthnasol ag ydoedd pan dynnwyd ef yn Rali Tryweryn 50 mlynedd yn ôl. Dau ffrind o Ddyffryn Nantlle ydyn nhw, Mathonwy Hughes a Gwilym R. Fe’i cefais gan ferch Gwilym R, Olwen.

Llun o Mathonwy Hughes a Gwilym R a dynnwyd yn Rali Tryweryn 50 mlynedd yn ôl

Wnes i newid y lle tân pan symudais i fyw yma. Euthum a’r ffrâm bren i Inigo Jones a gofyn iddynt wneud un ru’n fath mewn llechen. Rhoddais ddyfyniad gan Waldo arni. Dw i’n hoff o’r deryn a gefais yn anrheg.

Y lle tân gyda dyfyniad Waldo

Dowch drwodd i’r ardd. Dydi mo’r ardd dwtia yn y byd, ond mae’n nefoedd fach i mi. Mae nant bach yn llifo drwy waelod yr ardd o dan y tŷ ac mae pont bren dros yr afon. Cefais y lili gan gyfaill a ofynnodd oedd gen i le tamp yn yr ardd. Maent yn amlwg yn hoffi eu lle!

Angharad Tomos yn yr ardd

Pan edrychaf drwy ffenest yr atig yn y bore, gallaf weld mynyddoedd yr Eifl yn y cefndir. Yma, mae’r ffermwr newydd orffen lladd y gwair, ac wrthi’n ei gasglu. Dw i’n hapus iawn yma.

Yr olygfa drwy ffenest yr atig