Hanner ffordd yna. Ymhen tair wythnos, bydd naill ai Rishi Sunak neu Keir Starmer yn cerdded i mewn drwy un o’r drysau enwocaf yn y byd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

“Does yna neb wedi pleidleisio eto…” oedd ymateb Jo Stevens yn Nhrefynwy wrth siarad â golwg360 ddydd Iau (Mehefin 13), ar y diwrnod ddaru Keir Starmer osod ei weledigaeth o ar gyfer Deyrnas Unedig pe bai’n fuddugol ar Orffennaf 4.

Mae hon yn neges sydd wedi cael ei phwysleisio dro ar ôl tro gan y Blaid Lafur, sydd nawr yn gweld mai’r bygythiad mwyaf iddyn nhw yn yr etholiad yw y bydd pobol yn penderfynu peidio pleidleisio, gan eu bod yn meddwl bod yr etholiad wedi’i benderfynu’n barod.

Yn wir, ers i Rishi Sunak adael digwyddiad i gofio D-Day yr wythnos ddiwethaf, mae’r awyrgylch o gwmpas yr ymgyrch Dorïaidd wedi bod yn un o sobrwydd.

Roedd Sunak ei hun yn weledol fflat wrth gael ei gyfweld gan Nick Robinson ar noswyl cyflwyno maniffesto’r blaid, ac roedd Grant Shapps i’w weld fel pe bai’n cyfaddef mai prif amcan i’r Torïaid ydi gwneud yn siŵr nad yw Llafur yn ennill ‘mwyafrif llethol’. Ac ar y maniffesto, Silverstone oedd y lleoliad, gyda throsiad ynghylch troi cornel heb fod ymhell i ffwrdd wrth iddo wneud ei araith ryw ddau gan medr o linell derfyn y trac enwocaf yn y byd Fformiwla 1.

Ond eto, doedd ddim llawer o sŵn ynghylch yr hyn oedd gan Sunak i’w ddweud am y ddogfen. Mae’n edrych fel pe bai pobol wedi anfon neges eu bod nhw wedi cael digon ac yn barod am newid.

A dyma’r sialens i’r Blaid Lafur, sydd wedi gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n codi ysbryd pobol yn ormodol, a gwneud hyn mewn ffordd sydd yn pwysleisio ‘sefydlogrwydd fel newid’. Ond ydi hyn yn ddigon?

Mae’r arolygon barn, ar gyfartaledd, yn dangos bod y gefnogaeth i’r Torïaid ac i’r Blaid Lafur wedi gostwng ers i’r etholiad gael ei alw, gyda chefnogaeth i Reform a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn tyfu. Mae neges i’w dehongli yma. Mae’r pleidiau llai yn medru creu mwy o sŵn oherwydd eu bod nhw’n ymwybodol nad ydyn nhw’n mynd i ennill.

Un o’r maniffestos mwyaf radical hyd yn hyn ydi un y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi bod yn mynd ar draws y wlad gyda Syr Ed Davey yn dangos ei hun i fod yn wleidydd gwahanol i’r arferol, gyda stynts gwahanol sydd bron bob tro yn cynnwys gweithgaredd sy’n ymwneud â dŵr.

I nifer, mae’r ymgyrch wedi teimlo fel yr un rhaglen drosodd a throsodd, ond mae rhwystrau gwleidyddol i Starmer eu hwynebu dros y tair wythnos nesaf. Nawr bod agenda Llafur i’r Deyrnas Unedi wedi’i hamlinellu, mae’n rhaid iddo fo a’i ymgeiswyr barhau i drio creu cyffro ar faniffesto sydd ddim wir yn cyfateb i faniffesto Tony Blair yn 1997, er enghraifft. Ac mae pleidiau fel Reform, y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yn gallu defnyddio’r tair wythnos nesaf i ledaenu neges sydd efallai’n fwy cyffrous. Felly, dydi o ddim syndod bod Llafur a Jo Stevens yn mynnu nad yw’r etholiad wedi’i hennill eto, a bod rhaid i bobol droi allan i bleidleisio ar y 4ydd.