Lle bydd Iesu ddydd Iau, Gorffennaf 4 eleni, tybed? Buasai ambell Gristion yn mynnu – yn gwbl ddidwyll, gyda llaw – mai yn nhawelwch moel y capel fydd Iesu’r diwrnod hwnnw, yn gwbl ddiogel yno rhag holl sŵn a ffwdan ein gwleidydda ffôl. O gadw plwm ac aur gyda’i gilydd, buan y daw’r aur yn frwnt – ni ddylid byth cymysgu aur crefydd â phlwm gwleidyddiaeth.

Buasai ambell Gristion arall – eto’n ddidwyll ddigon – yn mynnu bod Iesu’n cytuno 100% â’i ddaliadau gwleidyddol ef neu hi.

A fuoch chi, tybed, ar ymweliad â Prague erioed? A welsoch y Bambino di Praga yno? Yr ochr arall i’r afon, ymhell o’r atyniadau cyfarwydd yn un o’r strydoedd llai prysur, mae eglwys sgwarog, ddigon plaen. Yno, uwchben yr allor, mewn cas wydr wedi’i oleuo’n llachar, mae yna ddelw fechan o’r baban Iesu yn eistedd ar orsedd – dyma Faban Prague. Mae miloedd ar filoedd o bobol yn dod i’w weld bob blwyddyn. Pam? Un rheswm ydi bod hen draddodiad, er pan gafodd y ddelw ei gosod yno yn 1628, fod yna ryw rym gwyrthiol yn perthyn iddi hi. Daw pererinion i ddisgwyl gwyrth. Rheswm arall ydi bod y dillad am y baban Iesu ar ei orsedd yn newid yn ôl y tymhorau ac yn ôl yr amgylchiadau; fe ddywedir bod yno lond wardrob o ddillad drudfawr, a’r rheini’n cael eu defnyddio i wisgo Iesu yn ôl y gofyn.

Mae’n demtasiwn parod i wisgo Iesu yn nillad parch. Caiff parch ei ddangos iddo fel un sydd uwchlaw ac yn wahanol. Er cydnabod dilysrwydd y pwyslais hwn, mae’n rhaid gofyn a oes perygl inni golli Iesu o’i herwydd? A oes perygl inni greu o Iesu o Nasareth – mab y saer, athro; y dyn – a chreu ohono Iesu pell, ac yntau’n cerdded y bannau uchel a ninnau yn llusgo’n ffordd ar hyd gwastadeddau islaw? A’r canlyniad? Y canlyniad yw bod Cristnogion yn fud am anghyfiawnder, yn lle ymladd yn ei erbyn. Ond mae’n demtasiwn parod hefyd i wisgo Iesu yn nillad ein gwleidyddiaeth ninnau, a chreu o Iesu o Nasareth – mab Duw, Arglwydd, y Gwaredwr – Iesu bach sy’n ymgorfforiad o’n dyheadau os nad, yn wir, ein mympwyon. A’r canlyniad? Y canlyniad yw ein bod yn trafod Iesu fel masgot ein plaid yn hytrach na’i gydnabod fel Arglwydd y pleidiau bob un.

Mae gennym ddeuoliaeth gyndyn, galed ar ein dwylo. Caiff crefydd a gwleidyddiaeth eu rhwygo, y naill oddi wrth y llall, a rhaid arbed y ddau beth rhag gwahanu’n llwyr oddi wrth ei gilydd. Beth wnawn ni felly?

Mae’r Cristion hwnnw sydd yn mynnu mai’r ffordd orau o ganlyn Iesu yw cadw’n gwbl glir o laid a llacs gwleidyddiaeth yn gwneud penderfyniad gwleidyddol rhyfedd o fawr, ac iddo oblygiadau dwfn, dwys. Hanfod gwleidyddiaeth yw grym. Peth peryglus yw grym – gwyddom hynny, ond gwyddom hefyd na allwn fod heb rym – grym, wedi’r cyfan, yw’r gallu i gyflawni pethau. Niwtral yw grym: mae modd ei ddefnyddio er drwg neu er da. O’r dechrau’n deg, mae pobol ddrwg wedi defnyddio grym yn llawer mwy effeithiol na phobol o ewyllys da. O ddewis peidio ysgwyddo ei gyfrifoldebau gwleidyddol, mae’r Cristion yn gollwng byd a phobol Duw i bwy bynnag arall sydd am ysgwyddo’r cyfrifoldebau rheini – da neu ddrwg. Fel pobol Crist – Duw yn y byd – mae ein mudandod a’n difaterwch gwleidyddol yn llawn cymaint o bechod ag yw geiriau a gweithredoedd brwnt y bobol ddrwg. Nid yw pethau’n gwella o raid. Dod y mae gwelliant drwy ymdrech pobol sy’n barod i fod yn gydweithwyr â Duw yn gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Heb inni ddefnyddio ein grym gwleidyddol yn gall a chyfrifol, mae grym yn troi’n gyfaill i’r elfennau sy’n atal gwelliant. Efengyl fain, yn gyfyngedig i’w fywyd personol sydd gan y Cristion sydd am gadw crefydd a gwleidyddiaeth ar wahân. Ni all Cristion rannu’r byd yn ddwy dalaith – y sanctaidd a’r bydol; Iesu Grist yn achub y naill, a rhywun arall – dim ots pwy – yn achub y llall! Pa werth dyrchafu gonestrwydd yn y ‘capel’ os, allan yn y ‘byd’, mae pobol ar goll ynghanol ffantasïau celwyddog yr hysbysebwyr? Pa werth canmol tiriondeb a charedigrwydd yn y ‘capel’ tra bod pobol allan yn y ‘byd’ yn boddi mewn môr a sadistiaeth a thrais? Peidiwn â chamgymryd ergyd yr emyn:

Draw, dra ymhell mae gwyrddlas fryn

Tu faes i fur y dref …

Nid naill ochr o ferw’r byd mae’n ei olygu, ond tu allan i’r ddinas sanctaidd, lle safai’r deml – allan yn y byd. Yno y dylid gweld crefydd ar waith. Felly, peth peryglus i’r Cristion yw peidio â rhoi digon o sylw i wleidyddiaeth.

Rhaid ychwanegu awgrym arall. Peth llawn mor beryglus yw i’r Cristion roi gormod o sylw i wleidyddiaeth.

Er i sawl un geisio, nid oes neb wedi llwyddo erioed i wasgu Iesu i ddillad un blaid yn arbennig, neu un math o wleidyddiaeth yn neilltuol. Mae Iesu’n rhy fawr i hynny.

Meddyliwch gyda mi, er enghraifft, am drosedd a chosb. Mae’r bobol sydd o’r farn bod yn rhaid bod yn llym ar ddrwgweithredwr er mwyn goresgyn y drwg sydd fel gwenwyn yn ein cymdeithas, yn gorfod ymgodymu â geiriau Iesu yn y Bregeth Fawr:

…peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy’n gwneud drwg i chwi

(5:39a)

Pe bawn yn adeiladu polisi trosedd a chosb ar sail y geiriau rheini, buasem yn gorfod mentro byw heb ofal heddlu a llysoedd barn; heb garchardai, heb y fyddin. Yn yr adnod nesa’, meddai Iesu:

Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro’r llall hefyd. Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.

(39b&40)

Anodd dychmygu’r un blaid yn annog y cyhoedd i fwrw pleidlais drostyn nhw gan ddadlau, os bydd lleidr yn dwyn eich beic o’r sied, y dylech gynnig allweddi’r car iddo hefyd. A fuasai modd adeiladu polisi amddiffyn, tybed, ar sail anogaeth Iesu yn Efengyl Luc:

…bydded i’r hwn sydd â phwrs ganddo fynd ag ef i’w ganlyn, a’i god yr un modd; a’r hwn nid oes ganddo gleddyf, bydded iddo werthu ei fantell a phrynu un.

(22:36)

Ond, rhag i neb feddwl fod yma gyfiawnhad dros chwyddo’r gwariant milwrol, cofiwn eiriau Iesu yn Efengyl Mathew:

…bydd pawb sy’n cymryd y cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.

(26:52)

Heb os nac oni bai, cymeriad gwleidyddol oedd Iesu:

y mae Efe yn gwyrdroi’r bobol.

(Luc 23: 5.WM)

Cafodd ei groeshoelio fel rebel politicaidd – yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn y dweud:

Brenin yr Iddewon

(Marc 15: 26)

Roedd newyddion da’r Saer bregethwr o Nasareth yn llawer rhy wleidyddol i sefydliad crefyddol a gwleidyddol ei gyfnod allu ei anwybyddu. Ond ni all yr un blaid heddiw mo’i berchnogi!

Dewch gyda mi i Cesarea Philipi. Pam Cesarea Philipi? Dyma’r fan lle bu’n rhaid i’w ddisgyblion ddeall nad ateb parod i’w cwestiynau a hirddisgwyliadau’r bobol oedd Iesu o Nasareth. Bu’n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod Iesu’n gwrthod bod yn ateb, ac yn mynnu bod yn gwestiwn. Nid oedd Iesu’n ffitio i mewn i fowld Jeremeia, neu Elias neu Ioan Fedyddiwr.

Nid oes modd gwasgu gweinidogaeth Iesu i faniffesto, gan mai cwestiwn gwleidyddol yw Iesu, nid ateb gwleidyddol. Dim ond fel cwestiwn y gall Crist wir ddylanwadu ar ein gwleidyddiaeth – yn bersonol, yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol. Mae’r Crist sydd yn cael ei gynnig fel ateb parod – Crist wedi’i gymeradwyo fel polisi – yn ddim byd ond cynnyrch ein dymuniadau a’n hymgais i allanoli ein dyheadau.

Efallai eich bod yn gofyn, i ba le mae Owain Llŷr yn mynd â ni heddiw? Mae’n dweud ag un anadl fod gwleidyddiaeth yn bwysig i’r Cristion, ac ar y nesa’ nad yw mor bwysig â hynny.

Arhoswch! Mae angen mynd un cam ymhellach.

Sub specie aeternitatis. Dyma, am wn i, gyfrinach deall y berthynas rhwng Cristnogaeth a gwleidyddiaeth: sub specie aeternitatis – yng nghyd-destun tragwyddoldeb. Darn bychan bach yw heddiw o ddarlun llawer amgenach – darn o dragwyddol bwys mewn darlun tragwyddol ei faint. Llyw gwleidyddol y Cristion yw Sub specie aeternitatis. Gwleidyddiaeth ddofn yw gwleidyddiaeth Sub specie aeternitatis. Aeth gwleidyddiaeth ein cyfnod yn fas, yn dibynnu ar y tameidiau: tamaid bach o gyfweliad, y darn lleiaf o erthygl, y dyfyniad bach bachog, llun trawiadol, delwedd effeithiol. Mae gorbwysleisio a gorddibynnu ar fân bethau fel hyn yn ein harwain i drafferthion mawr. Gwleidydda bas yw’r wleidyddiaeth honno sydd yn sôn o hyd fyth am gynyddu’r ddarpariaeth feddygol i’r sâl. Gwleidyddiaeth sub speciae aeternitatis yw honno sydd nodi a thargedu’r ffordd o fyw afiach sydd yn gwneud rhai pobol yn sâl yn y lle cyntaf. Gwleidyddiaeth fas yw honno sydd am godi rhagor o garchardai. Gwleidyddiaeth sub specie aeternitatis yw honno sydd o ddifrif am fynd i’r afael â gwreiddiau trosedd, yn arbennig mewn cymunedau difreintiedig. Gwleidyddiaeth fas yw honno sydd yn mynnu mai sylwedd gwleidyddiaeth yw cynnal safon ac amodau byw cysurus, sicrhau cyflogau da, sicrwydd economaidd, diogelwch… Gwleidyddiaeth sub specie aeternitatis yw honno sydd mynnu bod cenedligrwydd, iaith, cynhesrwydd cymdeithasol bro, cyfiawnder ymhell ac agos, hefyd yn bwysig. Gwleidyddiaeth fas yw dewis anwybyddu’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus – toriadau sydd yn anorfod – nes ar ôl yr etholiad. Gwleidyddiaeth sub specie aeternitatis yw cydnabod fod gan bobol yr hawl i wybod, yn glir, sut mae pob plaid yn bwriadu dod â’r diffyg ariannol i lawr, ac ad-dalu’r benthyciadau. Gwaith anodd fydd hyn; gwaith anodd gan mai gwaith amhoblogaidd ydyw. Mae gwaith amhoblogaidd yn galw am wleidyddiaeth agored, gadarn ac at-y-pwrpas, a gwleidyddion sydd yn barod i fod yn amhoblogaidd i gyflawni’r hyn sydd bellach yn angenrheidiol.

Ar y cyfan, gwleidyddiaeth y celwydd golau a’r gwirionedd gau yw gwleidyddiaeth ein cyfnod, ac o’r herwydd mae pobol yn gofyn, ‘Beth wnawn ni? Awgrymed rhywun gynllun inni ei weithredu.’ Yn wir, ni fuom yn brin o gynlluniau, ond cynlluniau bas, arwynebol oedden nhw, ac ydyn nhw, y rhan fwyaf. Mi gredaf fod mwy a mwy o bobol bellach yn gweld a sylweddoli nad yn nyfeisgarwch cynllunwyr a threfnyddion gwleidyddiaeth hawdd, arwynebol mae ein gobaith. Mae’n dechrau gwawrio arnom nad mwy o syniadau gwleidyddol bas mo ein hangen, ond gwleidyddiaeth sub specie aeternitatis. Gwleidyddiaeth ddofn, galed sydd yn gosod gwerth person uwchlaw eilunod cynnyrch a thechnoleg, uwchlaw gwladwriaeth a hil.

Caiff y Cristion ei alw i fwrw ei bleidlais yng nghyd-destun tragwyddoldeb. Rhagor na hyn, ni allaf ddweud. Rhaid i bawb mewn ffydd, ac o ffydd, ddewis y blaid sydd fwyaf tebyg o hyrwyddo gwleidyddiaeth sub specie aeternitatis.

Dw i’n gorffen gyda geiriau John Saltmarsh, caplan byddin Oliver Cromwell, 350 o flynyddoedd yn ôl:

Let us not assume any power of infallibility towards each other, for another’s truth is as dark to me as mine is to him – until the Lord enlighten us both.