Wedi’i magu ym mhen pellaf Sir Benfro, mae’r môr yn ddylanwad cyson ar greadigrwydd Ffion Richardson.

Daw’r cynllunydd gofodau a dylunydd thecstilau ifanc o Dŷ Ddewi, ac mae yn gweithio’n llawn amser i gwmni cynllunio tai. Ond mae hi hefyd wrth ei bodd yn troi ei llaw at greu patrymau haniaethol ar gyfer bagiau, dillad a dodrefn.

Natur yw ei dylanwad pennaf, ac mae llanw a thrai’r môr ar arfordir Sir Benfro’n bresenoldeb cyson.