Mae athro perfformio yn Sir Gâr eisiau cyfrol newydd hwylus yn lle gorfod “mynd i chwilio” bob blwyddyn…

Mae yna ddiffyg monologau ar gael i’w perfformio ar lwyfan eisteddfodau. Dyna farn athro sydd wedi bod yn hyfforddi dau ddisgybl o Ysgol Bro Myrddin ar yr ymgom, ac wedyn ar y monolog, ers tua 10 mlynedd.