Mae etholiadau’r Undeb Ewropeaidd wedi achosi daeargryn gwleidyddol yn Ffrainc, gyda’r asgell dde yn gwneud yn dda ac etholiad ar y gweill yn Ffrainc.

Ac mae un academydd o Gymru yn poeni fod pobol dlotach y cyfandir yn troi at bleidiau ar y dde eithafol, oherwydd pryderon am fewnfudo.