Mae 25 o fusnesau yn Nulyn wedi cael eu gwobrwyo am hybu’r iaith Wyddeleg.

Cafodd gwobrau blynyddol rhwydwaith busnesau prifddinas Iwerddon eu cynnal ym Mansion House neithiwr (nos Iau, Mehefin 13).

Mae’r gwobrau’n rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau sy’n sicrhau bod yr iaith yn ganolog i’w gwaith o ddydd i ddydd.

Cigyddion teuluol Troy dderbyniodd y wobr ar gyfer yr ymgyrch Wyddeleg orau, tra bod tafarn y Four Provinces yn Camaigh wedi’u henwi’n lleoliad Gwyddeleg gorau’r ddinas.

Aeth y wobr am y gweithiwr gorau wrth hybu’r Wyddeleg i Alan Walpole o siop farbwr Greene’s yn Ráth Maonais.

Aeth y wobr BÁC le Gaeilge i’r Arglwydd Faer Daithí de Róiste am ei waith arloesol ar yr iaith Wyddeleg yn ystod 2024.

‘Cefnogaeth wych i’r gymuned Wyddeleg’

“Roeddwn i wrth fy modd o gael bod yng nghwmni cynifer o fusnesau gwych ym Mansion House,” meddai Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Maen nhw’n rhoi cefnogaeth wych i’r gymuned Wyddeleg.

“Rydyn ni o hyd yn gweld bod y bobol eisiau cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, a thrwy rwydwaith busnes BÁC le Gaeilge, mae’r cyfleoedd hyn yn parhau i dyfu.

“Mae’n bwysig cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud drwy rwydwaith busnes BÁC le Gaeilge.

“Maen nhw’n darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Wyddeleg yn y ddinas, sy’n helpu i normaleiddio’r defnydd o’r iaith.

“Mae manteision diwylliannol ac economaidd amlwg i’r iaith Wyddeleg, ac mae BÁC le Gaeilge yn helpu i gefnogi busnesau yn ninas Dulyn sydd eisiau hybu’r Wyddeleg yn y gymuned.”