Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur yn San Steffan, yn dweud bod angen adolygu’r fframwaith cyllido.
Yn eu maniffesto, dywed Llafur fod y “fframwaith cyllidol wedi dyddio”, ac y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau “gwerth am arian”.
Mae Plaid Cymru, sydd hefyd wedi lansio’u maniffesto nhw yr wythnos hon, yn galw am fframwaith sy’n ystyried anghenion cenedlaethol yn hytrach na’r boblogaeth.
“Mae’r fframwaith cyllidol allan o ddyddiad, felly byddwn ni edrych arno fe,” meddai Jo Stevens wrth golwg360.
“Dw i ddim am wneud unrhyw ymrwymiadau i sut yn union fydd hynny yn edrych, oherwydd bydd e’n golygu ymgynghoriad eang.
“Ond mae fframwaith cyllidol yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael eu hadolygu, a dw i wedi bod yn ymgyrchu dros adolygu fframwaith Cymru.
“Dyna pam mae’r ymrwymiad yna yn y maniffesto.”
Amlinellu blaenoriaethau
Ddoe (dydd Iau, Mehefin 13), lansiodd y Blaid Lafur eu maniffesto gan amlinellu eu blaenoriaethau mewn llywodraeth pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Yn y maniffesto, mae pwyslais ar gydweithio gwell rhwng Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig.
“Bydd Llafur yn sicrhau bod y sefydliadau a’r strwythurau ar gyfer cydweithredu rhynglywodraethol yn gwella perthnasoedd a chydweithio ar bolisïau,” meddai Jo Stevens wedyn.
Yn ôl pob tebyg, Jo Stevens fyddai Ysgrifennydd Gwladol nesaf Cymru pe bai Llafur yn dod i rym.
“O ‘mhrofiad i o fynd o gwmpas Cymru ac o wrando ar etholwyr sy’n deuluoedd neu’n fusnesau, yr hyn maen nhw ei eisiau ydy sefydlogrwydd a sicrwydd,” meddai.
“Ac fel y dywedodd Keir Starmer heddiw, roedd e’n sefyll o’n blaenau ni heddiw fel ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog, nid fel ymgeisydd i gael triciau allan o’i fag, oherwydd dyna fyddai arweinydd syrcas yn ei wneud.
“Mae hwn yn gynllun o ddifrif.
“Mae’n faniffesto sydd yn egluro sut fyddwn ni’n dod â sefydlogrwydd economaidd i’r wlad, sut fyddwn ni’n tyfu’r economi, a sut fyddwn ni’n creu cyfoeth sydd yn gallu cael ei rannu ar draws pob etholaeth.”
Twf economaidd
O ran twf economaidd, mae’r Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Cyllidol yn dweud y bydd yn rhaid aros o leiaf ddwy flynedd i weld cynlluniau’n llwyddo, ond maen nhw hefyd yn dweud bod y maniffesto’n un sydd yn gallu cyflawni’r amcan.
“Rydym am fuddsoddi mewn seilwaith, pethau fel cwmni ynni’r Deyrnas Unedig a’r gronfa gyfoeth genedlaethol fydd yn creu’r strwythurau a swyddi newydd,” meddai Jo Stevens.
“Meddyliwch am yr holl ynni adnewyddadwy sydd ei angen arnom.
“Bydd gan Gymru rôl enfawr i’w chwarae wrth weithredu’r cynllun hwnnw o safbwynt niwclear a gwynt ar y môr.
“Fe wnaeth y Llywodraeth Lafur ddiwethaf dyfu’r economi ar gyfartaledd o 2.5% y flwyddyn; ar hyn o bryd, dydy’r Torïaid ddim yn agos at wneud hyn.”