Mae ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth wedi llosgi cerbydau’r heddlu a blocio ffyrdd yng Nghaledonia Newydd, yn dilyn ffrae tros estraddodi arweinydd.
Mewn datganiad, dywed Uchel Gomisiwn Ffrainc fod protestwyr hefyd wedi rhoi neuadd y dref ar dân yn Koumac ac wedi difrodi ardaloedd yn Paita.
Daw hyn ar ôl i Christian Tein, un o arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth gael ei estraddodi.
Roedd ymosodiad ar gerbyd y gwasanaeth tân, o bosib â dryll, a bu’n rhaid i ysgolion gau yn sgil y protestiadau oedd wedi dechrau fis diwethaf ar ôl i Ffrainc bleidleisio dros ddiwygiadau i alluogi miloedd yn rhagor o Ffrancwyr sy’n byw yno ers dros ddeng mlynedd i bleidleisio yn y diriogaeth.
Yn ôl brodorion, bydd rhoi’r bleidlais i Ffrancwyr yn lleihau dylanwad eu pleidleisiau nhw eu hunain, ac yn ei gwneud hi’n fwy anodd iddyn nhw ennill annibyniaeth yn y dyfodol.
Ond yn ôl Ffrainc, mae ymestyn y bleidlais i ragor o bobol yn gam democrataidd dilys.
Mae arweinwyr gwleidyddol yng Nghaledonia Newydd yn dweud bod estraddodi Christian Tein a swyddogion eraill wedi eu “syfrdanu” nhw.