Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod nhw’n deall “rhwystredigaeth pobol” sydd wedi arwain at fandaleiddio arwyddion 20m.y.a.

Daw ymateb Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid, yn dilyn wyth achos o ddifrodi arwyddion yng Nghonwy.

Mae dau o arwyddion y sir wedi’u targedu fwyaf aml yng Nghymru ers i’r polisi ddod i rym fis Medi y llynedd.

Yn ôl Cyngor Conwy, mae’r arwyddion yn cael eu difrodi unwaith maen nhw’n cael eu trwsio.

‘Arafu Cymru’

“Er nad fandaliaeth yw’r dull cywir byth, mae’r stori ddiweddaraf hon yn tynnu sylw at y rhwystredigaeth mae pobol yng Nghymru’n ei theimlo tuag at derfyn cyflymder 20m.y.a. Llafur,” meddai Natasha Asghar.

“Mae’r polisi hwn yn arafu Cymru, ac mae rhagolygon y bydd yn bwrw economi Cymru hyd at £9bn.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dileu cynllun terfyn cyflymder Llywodraeth Lafur Cymru, yn mabwysiadu dull wedi’i dargedu, ac yn cael Cymru’n symud eto.”