Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru’n dweud bod rhaid “gwthio Llafur i fod yn ddewrach”.
Fe fu Anthony Slaughter yn siarad â golwg360 yn dilyn lansio maniffesto’r Blaid Werdd ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn Brighton.
Yn ôl y maniffesto, sydd wedi’i gostio’n llawn, byddai’r Blaid Werdd yn codi rhwng £50-£70bn drwy newid y rheolau ar drethi personol, megis cynnydd o 8% i Yswiriant Gwladol ar gyfer pobol sy’n ennill cyflog dros £50,270 y flwyddyn, a threth cyfoeth o 1% ar asedau gwerth dros £10m a 2% ar asedau dros £1bn.
“Y pethau allweddol yw ariannu cywir i’r Gwasanaeth Iechyd, tai cynnes a fforddiadwy i bawb, economi sefydlog, a dw i’n meddwl mai’r peth sy’n sefyll allan fwyaf yw’r ffaith ein bod ni’n onest am faint mae hyn yn mynd i gostio,” meddai Anthony Slaughter wrth golwg360.
“Rydym wedi bod yn onest am faint sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Dyma faint o arian sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd, sydd ar ei bengliniau, ac mae’r argyfwng hinsawdd yn fater sydd angen gweithred fwy nag erioed.”
Mae’r Blaid Werdd wedi addo gwario £50bn ar iechyd a gofal cymdeithasol erbyn y senedd nesaf yn 2028.
“Trwy drethi ar gyfoeth ac ar garbon, bydden ni’n gallu codi’r arian sydd ei angen i weithredu’r polisïau yn y maniffesto,” meddai.
Mae’r blaid yn dweud y byddai treth garbon ar elfennau dydd i ddydd sydd yn defnyddio’r tanwydd, megis gyrru ceir, yn helpu i “yrru tanwyddau ffosil allan o’n heconomi” ac yn codi arian i drawsnewid i ffurf lanach o gynhyrchu ynni a theithio.
Ond hyd yn oed efo’r polisïau yma ar drethi, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud y bydd “benthyca cyffredinol tua £80bn yn fwy y flwyddyn” na’r addewid sydd yn y maniffesto.
Neges i Lafur
Er bod Anthony Slaughter a’r Blaid Werdd yn realistig ynghylch gobeithion ei blaid, byddai pleidlais drostyn nhw’n golygu mwy o gyfle i “wthio Llafur i fod yn ddewrach”, meddai.
“Rydym yn mynd i ennill o leiaf bedair sedd yn yr etholiad yma.
“Yma yng Nghymru, dw i yn hyderus ein bod ni am ennill ein cyfran fwyaf o bleidleisiau, a hynny yn arwain at etholiadau’r Senedd yn 2026, sydd hefyd yn neges gref i’r Blaid Lafur bod pobol eisiau’r math yma o bolisïau a syniadau.
“Beth sy’n cael ei anghofio yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd yw fod rhaid bod mewn meddylfryd rhyfel, i ryw raddau, i fynd i’r afael â’n problemau – adeiladu mwy o dai, ôl-ffitio tai presennol, bod yn fwy cynaliadwy, a chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.
“Hyd yn hyn, mae’r pleidiau eraill fel Llafur a’r Ceidwadwyr wedi methu ar y materion yma o ran dewrder gwleidyddol.”
Addewidion i Gymru
Mae’r Blaid Werdd yng Nghymru o blaid annibyniaeth – rhywbeth mae Anthony Slaughter wedi’i ddweud wrth golwg360 o’r blaen.
Yn eu maniffesto, dywed y blaid y “dylai rheolaeth dros asedau [Ystâd y Goron] dan awdurdod Cymru gael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, fel sydd yn yr Alban”.
“Mae’r Gwyrddion yn cefnogi hunan benderfyniad cenedlaethol.
“Dylai’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fod yn rhydd i wneud penderfyniadau ynghylch faint neu gyn lleied maen nhw’n rhan o’r Deyrnas Unedig.”
Dywed Anthony Slaughter y byddai aelodau seneddol y Blaid Werdd yn San Steffan yn pleidleisio o blaid datganoli mwy o bwerau, fel trosedd a chyfiawnder, i’r Senedd.
Byddan nhw’n cyhoeddi mwy o addewidion i Gymru mewn digwyddiad yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.