Mae rhifyn cyntaf Bloedd y Gad, cylchgrawn dwyieithog Byddin yr Iachawdwriaeth, wedi’i gyhoeddi.
Mae’n cael ei hystyried yn garreg filltir bwysig yn eu hanes, wrth i’r eglwys a’r elusen ddathlu 150 mlynedd o gefnogi cymunedau a phobol fregus ledled Cymru.
Y Capten Deryk Durrant, arweinydd Eglwys Wrecsam, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhifyn arbennig hwn i ddynodi blwyddyn arbennig.
“Penderfynwyd bod angen rhywbeth unigryw i gydnabod y 150 mlwyddiant,” meddai.
“Tra bo rhifynnau o War Cry yn Saesneg ac yn Gymraeg wedi’u cyhoeddi eisioes, ni cheisiwyd mynd i’r afael â chyhoeddi rhifyn dwyieithog.
“Cefais fy ysbrydoli i gynhyrchu Bloedd y Gad yn Gymraeg i rannu’r efengyl yn yr iaith hynafol ryfeddol hon sy’n parhau’n fyw iawn.”
Y copïau cyntaf
Cafodd copïau cyntaf War Cry eu cyhoeddi yn 1879 yn Saesneg, a daeth rhifynnau Cymraeg eu hiaith ddegawd yn ddiweddarach dan yr enw Y Gad Lef.
Yn rhan o’r dathliad, mae rhai o’r copïau sy’n dyddio’n ôl i 1889 wedi’u rhoddi i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Y Lolfa yw’r cyhoeddwr sydd wedi bod yn brysur yn argraffu’r cylchgrawn, a dywed Paul Williams, eu Rheolwr Cynhyrchu, ei fod e a’i dîm wedi mwynhau gweithio ar y prosiect.
“Mae wedi bod yn fraint gallu sicrhau bod fersiwn ddwyieithog o War Cry wedi’i dosbarthu am y tro cyntaf ledled Cymru, a bu’n bleser cydweithio â Byddin yr Iachawdwriaeth ar y prosiect hwn,” meddai.
“Bu Deryk Durrant yn gweithio gyda’n dylunydd a’n cyfieithydd a symudodd y prosiect yn gyflym iawn i’r cam cynhrychu terfynol.”