Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, mae llyfr wedi’i gyhoeddi sy’n talu teyrnged a dathlu bywyd a gwaith telynor o fri.
Yn ogystal a bod yn delynor, roedd Llewelyn Alaw (Thomas Dafydd Llewelyn) hefyd yn gasglwr cerddoriaeth draddodiadol brwd ac mae ei lawysgrifau bellach wedi’u cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae’r llawysgrifau hyn yn rhoi cipolwg inni ar yr hyn a oedd yn cael ei chwarae gan gerddorion yng nghymoedd glofaol de Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ogystal â’r hen alawon a chaneuon gwerin Gymreig, maent yn cynnwys cannoedd o alawon dawns o bob rhan o Brydain, rhai o Ewrop ac ambell un o America hyd yn oed.
Dau gerddor gwerin o dde Cymru Rob Bradshaw a Jeff Jones sydd wedi bod yn ymchwilio i’r llawysgrifau er mwyn cyhoeddi argraffiad mwy cynhwysfawr o gynnwys y casgliad rhyfeddol hwn.
Roeddent wedi cydweithio â Christine Moore o Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru er mwyn cyhoeddi Teyrnged i Llewelyn Alaw/A Tribute to Llewelyn Alaw.
Dwyieithog yw’r llyfr ac mae’n cynnwys esiamplau o gerddoriaeth yn ogystal â disgrifiadau a darluniau o’r llawysgrifau er mwyn rhoi cipolwg llawn i’r darllenydd ar ei waith.
Yn y llyfr hefyd, mae gwaith David Leslie Davies M.A. hanesydd o Gwm Cynon sy’n trafod bywyd Llewelyn Alaw.
Hen Dŷ Cwrdd
Magwyd Llewelyn Alaw yn Nhrecynon ger Aberdâr ac roedd yn aelod triw o Hen Dŷ Cwrdd, capel yr Undodiaid.
Roedd nifer o bobl ddylanwadol oedd â chysylltiad â’r capel hwn wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drefnu a datblygu’r Eisteddfod Genedlaethol ‘fodern’ gyntaf a gynhaliwyd yn Aberdâr yn 1861.
Mae gan y capel gysylltiad hefyd ag Iolo Morgannwg a oedd yn gyfrifol am sefydlu ‘Gorsedd y Beirdd’ fodern gyntaf yn 1792 ac mae’n sefydliad bellach sy’n rhan annatod o’r ŵyl.
Ym mis Mawrth, derbyniodd Addoldai Cymru £240,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Roedd yr arian hwn wedi eu galluogi i atgyweirio’r capel a dehongli hanes y capel gan gynnwys arddangosfa am Hen Dŷ Cwrdd yn Amgueddfa Cwm Cynon a fydd i’w gweld hyd at 20 Gorffennaf.
Mewn sgwrs â golwg360, dywed Christine Moore, rheolwr ymddiriedolaeth Addoldai Cymru eu bod “yn hynod o gyffrous” am ddau reswm.
“Yn gyntaf i godi proffil Hen Dŷ Cwrdd gan nad yw’n cael ei werthfawrogi i’w lawn botensial ac nid yw’n hysbys iawn o ran ei gysylltiad hanesyddol.
“Ond hefyd rydym yn gyffrous am rai o’r alawon yn y llyfr hwn oherwydd mae’n debyg nad ydynt wedi gweld golau dydd ers amser hir.
“Mae’n gyfle gwych i gerddorion ganu rhai o’r alawon hyn sydd wedi bod yn eistedd yn llawysgrif Llewelyn Alaw yn y Llyfrgell Genedlaethol a’u bywiogi unwaith eto.”
Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Mae gan Addoldai Cymru uned yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni sy’n arddangos hanes Llewelyn Alaw a Hen Dŷ Cwrdd.
Bydd David Leslie Davies hefyd yn cynnal darlith ‘Telor mwyn teulu’r mynydd: Y telynor Llewelyn Alaw’ ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Iau, 8 Awst.
Hefyd ar 8 Awst bydd gweithdy a sgwrs yn cael ei gynnal gan Lowri Davies yn Y Lle Celf.