LLyfrau poblogaidd Cymraeg ar Kindle

Wel, mi roedd wythnos diwethaf yn llawn bwrlwm a chystadlu yn doedd? Ie, ie, roedd yna etholiad cyffredinol nos Iau, a rhai ohonom wedi bod yn gwylio ac yn gohebu ar hynny.

Ond roedd y byd llenyddol hefyd wrthi’n beirniadu llenorion, gan ddethol llyfrau mewn pedwar gwahanol gategori, yn y ddwy iaith, i fod yn ‘llyfr y flwyddyn’ o fewn y categori a iaith dan sylw. Mae un llyfr yn ennill y wobr ‘Barn y bobl’, ac un llyfr wedyn uwchben y cyfan fel prif enillydd.

Ac, wrth gwrs, mae yna erthyglau niferus ar wefan Golwg360 lle medrwch gael mwy o wybodaeth am y gystadlaethau hyn, gan gynnwys Iwan Rees yn ennill ‘Barn y bobl’, a Mari George yn ennill ‘Llyfr y flwyddyn’.

Pan welais yr erthyglau yma, mi wnaeth ysgogi fwy o synfyfyrio am y sîn cyhoeddi yng Nghymru, yn ogystal a’r drwgdybiaeth tuag at platfform Amazon, a ni sydd yn hunan-gyhoeddi drwyddi.

Ffrwyth y synfyfyrio hynny felly yw’r golofn hon y tro yma.

Rhestrau llyfrau fwyaf poblogaidd Amazon

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, es ati i hunan-gyhoeddi ‘Trawiad | Seizure’ – pamffled dwyieithog o gerddi ar y mater heriol o drawiadau a thriniaeth gyda sodium valproate a’i gwaddol. Defnyddiais blatfform Amazon i wneud hyn.

Megis dysgu ydw i am y math yma o dechnoleg, felly bu ychydig o oedi rhwng cyhoeddi’r copïau caled a’u gosod yn y siopau, a chreu a gosod fersiwn Kindle ar Amazon; i ddweud y gwir mae’n debyg na fyddwn wedi mynd ati i wneud hyn tasa un o fy ffrindiau o Kuwait heb fy annog i wneud, gan nad yw’n bosib cael copïau caled o Amazon lle mae ef yn byw.

Synnais fod ambell i ffrind arall hefyd wedi dewis ei brynu wedyn fel copi Kindle, tra nad oedden nhw wedi prynu’r fersiwn copi caled – wnes i ddim holi ynglŷn â’r rhesymau, ond mae hi yn dangos ei bod hi’n syniad da rhoi dewis i bobl.

Cwpwl o wythnosau wedyn, wnaeth un o fy ffrindiau, Ewan Smith, wneud sylwad ar ‘X’ i fy llongyfarch bod fy llyfr yn rhif 18 yn y rhestr 100 o lyfrau Cymraeg mwyaf poblogaidd ar y rhestr e-lyfrau Gymraeg.

Wedi cyffroi, es draw i sbio, ac i ddechrau meddyliais ei fod wedi gwneud camgymeriad, gan ddrysu fy llyfr hefo un o’r llyfrau melyn eraill sydd hefyd ar gael ar Amazon ac fel llyfr Kindle, sef ‘Y Delyn Aur’ gan Malachi Edwards.

Ond na, wedi i Ewan esbonio lle i ffeindio’r linc i’r rhestr o 100 o e-lyfrau fwyaf poblogaidd yn y Gymraeg ar Kindle, gwelais ei fod o’n llygad ei le!

Nawr te, cyfnod byr iawn y bu fy llyfr Kindle i yn mwynhau’r ffasiwn boblogrwydd, ac erbyn hyn (Dydd Sul, Gorffennaf 7 2024) mae hi’n rhif 301, ond mae hyn felly yn dangos fod fy llyfr bach i yn eistedd ar silff y ‘Cloudalists’ gyda llyfrau y gweisg Gymreig, sydd wedi eu hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru; waeth sut euthum ati i gyhoeddi y llyfrau hyn, mae’r holl wybodaeth hyn ‘yn y cwmwl’.

Y 50 e-lyfr fwyaf poblogaidd yn y Gymraeg (07/07/24)

Rhif

Awdur

Teitl

Gwasg

1

Manon Steffan Ros

Inc

Y Lolfa

2

Bethan Gwanas

Hi oedd fy ffrind

Y Lolfa

3

Bethan Gwanas

Merch y gwyllt

Y Lolfa

4

Manon Steffan Ros

Llyfr Glas Nebo

Y Lolfa

5

Gol. Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury

Y gynghanedd heddiw

Cyhoeddiadau Barddas

6

Geraint Evans

Y Llwybr

Y Lolfa

7

Bethan Gwanas

Hi yw fy ffrind

Y Lolfa

8

Mihangel Morgan

Pantglas

Y Lolfa

9

Collins GCSE

WJEC GCSE Welsh as a second language all-in-one complete revision

Collins

10

Myrddin ap Dafydd

Clywed cynghanedd – cwrs cerdd dafod

Gwasg Carreg Gwalch

11

Soren Wildt

Soren Moriarty

Kindle (?)

12

Meleri Wyn James

Cyfres amdani: Agor y drws

Y Lolfa

13

Gwen Penderyn

Enwau Cymraeg – Welsh names

Annibynnol (?)

14

Kate Roberts

Te yn y grug

Y Lolfa

15

Esyllt Maelor

Cyfres Amdani: Dewch i mewn

Y Lolfa

16

Sian Rees

Adar mud

Gwasg Carreg Gwalch

17

Gareth F Williams

Awst yn Anogia

Gwasg Gwynedd

18

Kate Roberts

Traed mewn Cyffion

Gwasg Gomer

19

Richard MacAndrew

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Atebol

20

Dewi Rhys-Jones

Welsh bilingual conversation texts for beginners

CreateSpace (Amazon)

21

Sion Tomos Owen

Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda: i ddysgwyr lefel sylfaen (Amdani)

Y Lolfa

22

Colin Jones

Coed y brenin – nofel Aberarthur i ddysgwyr

Cadw sŵn/ Potassium Frog LtD.

23

D.Geraint Lewis

Y Diarhebion

Y Lolfa

24

Mared Lewis

Treheli

Y Lolfa

25

Gol. Catrin Beard

Hi-hon: Casgliad o straeon ac ysgrifau gan fenywod am eu profiadau o fywyd yn y Gymru gyfoes

Honno Press

26

Daniel Owen

Rhys Lewis

Cromen

27

Barri Lang

Y Wyddor annwyl: Pinc

Annibynnol (?)

28

Barri Lang

Y Wyddor Annwyl: Glas

Annibynnol (?)

29

Dewi Prysor

Brithyll

Y Lolfa

30

Sarah Reynolds

Cyfres Amdani: Cyffesion Saesneg yng Nghymru

Atebol

31

Lois Arnold

Gorau Glas

Y Lolfa

32

Sian Northey

Yn y Tŷ hwn

Gomer

33

Malachy Owain Edwards

Y Delyn Aur

Gwasg y bwthyn

34

Christine Jones

Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i diwtoriaid Cymraeg i oedolion

Gwasg Prifysgol Cymru

35

Manon Steffan Ros

Y Stelciwr

Y Lolfa

36

Amrywiol

Ffenest a straeon eraill i ddysgwyr

Y Lolfa

37

Elidir Jones

Chwedlau copa coch: Yr Horwth

Atebol

38

Alun Davies

Ar daith olaf

Y Lolfa

39

Sonia Edwards

Cyfres Amdani: Samsara

Y Lolfa

40

Colin Jones

Cwm Gwrachod

Cadw Sŵn/ Potassium Frog

41

Meilir Wyn Edwards

Cyfres amdani: Am ddiwrnod!

Y Lolfa

42

Elisavet Arkolaki

Yr haf â thad-cu/ Summer with Grandpa

MaltaMum

43

Angharad Price

O! Tyn y gorchudd

Y Lolfa

44

Ellis Wynne

Gweledigaethau y bardd cwsg

Cromen

45

Helen Naylor

Cyfres amdani: Y Llythyr

Atebol

46

John Davies

Hanes Cymru

Penguin

47

Pegi Talfryn

Cyfres Amdani: Gangsters yn y glaw

Gomer

48

John Davies

Fy hanes i: hunangofiant John Davies

Y Lolfa

49

Andrew Green

Rhwng y silffoedd

Y Lolfa

50

Gol. Esyllt Maelor

Byd bach – straeon i ddysgwyr

Y Lolfa

 

Fel y gwelwch o’r rhestr uchod, nid oedd ‘Trothwy’ gan Iwan Rees, sef enillydd ‘Barn y bobl’, yn y 50 o e-lyfrau fwyaf poblogaidd yn y Gymraeg pan es ati i sbio OND, mae hi ar gael fel llyfr Kindle, ac mae hi ar hyn o bryd yn rhif 398 – felly cwta 97 tu ôl i fy llyfr i ar hyn o bryd, a finnau wedi cael 6 mis o ‘head start’ o ran pryd y cyhoeddwyd! Ond dw i’n siŵr bydd llyfr Iwan ddim chwinciad yn dal fy un i, ac yn fy mhasio yn y ciw cyn bo hir – chwip o lyfr wnes ei fwynhau yn arw.

Nid yw prif enillydd ‘Llyfr y flwyddyn 2024’ – ‘Sut i Ddofi Corryn’ gan Mari George ar gael fel llyfr Kindle hyd yn hyn, ond fel y gwelwch o’r rhestr uchod, mae’r cwmni cyhoeddi ‘Atebol’ yn un sy’n cyhoeddi ar Kindle a’i lyfrau yn cyrraedd y 50 fwyaf poblogaidd, ac mae cyhoeddwr ‘Sut i Ddofi Corryn’, Sebra, yn wasgnod mewnol i Atebol – felly ella y bydd ar gael rhyw ben.

Pwy sydd ar y brig ar Kindle?

Un peth wnaeth fy nharo i wrth sbio ar y rhestr uchod oedd fod rhai awduron gyda mwy nag un llyfr yn y 50 fwyaf boblogaidd. Mae gan Manon Steffan Ros a Bethan Gwanas dri llyfr yr un ar y rhestr; mae gan Siân Northey un llyfr ar y rhestr – ond felly gyda’i gilydd mae criw y podlediad ‘Colli’r Plot’ hefo 7 llyfr ymysg y 50 fwyaf poblogaidd!

Braf yw gweld cyfraniadau gan llenorion clasurol megis Daniel Owen a Kate Roberts, sy’n rhoi cyfle, cynulleidfa, a chyfrwng newydd i’r hen glasuron.

Mae yna ddau lyfr am y gynghanedd ar y rhestr – a taswn i yn medru cynganeddu fyddwn yn debyg yn sgwennu rhywbeth clyfar yma am “yr hen ddweud o’r newydd yw”…ond does gen i ddim y sgiliau felly wnâi ddim.

Mae antholegau o straeon byrion i’w gweld yn boblogaidd, ond yn enwedig os maent wedi eu marchnata i ‘ddysgwyr’; yn wir, mae canran mawr o’r rhestr un ai yn lyfrau am yr iaith Gymraeg i helpu pobl i’w dysgu, neu maent yn llyfrau wedi eu sgwennu mewn Cymraeg syml fel camau cyntaf dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i fwynhau darllen ffuglen a phethau ffeithiol creadigol yn y Gymraeg.

Mae un neu ddau fel fi sydd wedi cyhoeddi yn annibynnol heb greu cwmni fel cyhoeddwyr, tra bod eraill wedi creu cwmni ei hunain – fy ffefryn fa’ma yw ‘MaltaMum’!

Ond mae’r rhan helaeth o’r llyfrau sydd ar y brig hefo Kindle wedi eu cyhoeddi gan y cyhoeddwyr a noddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, gan gynnwys Gwasg y Bwythyn, Gwasg Carreg Cwalch, Atebol, ac, gyda’r nifer fwyaf a’r rhan fwyaf i ddweud y gwir – Y Lolfa.

A dyma fi felly, yn dod a’r erthygl i ben gan obeithio fy mod wedi eich difyrru hefo fy ymchwil, ac wedi cyfrannu rhywbeth bach amgen i’r sgyrsiau am lyfrau’r flwyddyn, y flwyddyn hon!