Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Catherine Jones sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Gogglebocs Cymru ar S4C. Mae Catherine yn dod o Gasllwchwr yn Abertawe yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Wiltshire ac yn dysgu Cymraeg.
Catherine, beth yw eich hoff raglen ar S4C?
Fy hoff raglen ar S4C ydy Gogglebocs Cymru.
Dw i erioed wedi gwylio Gogglebox yn Saesneg a dw i wedi cyffroi i weld y fersiwn Gymraeg.
Pam dych chi’n hoffi’r rhaglen?
Ro’n i’n mwynhau gweld pawb yn gweiddi ar eu teledu nhw hefyd. Mae’n ffordd dda i gael argymhellion am raglenni teledu ond gwyliwch am y spoilers!
Beth dych chi’n feddwl o’r cyflwynwyr?
Dw i’n hoffi’r cyflwynydd Tudur Owen. Mae o’n ddoniol a dw i’n hoffi gwrando arno fo ar y radio hefyd. Mae o’n dda fel pencampwr yr iaith Gymraeg hefyd.
Pam fod y rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?
Mae Gogglebocs Cymru yn dda i ddysgwyr achos mae ‘na bobl wahanol ar y rhaglen o bob rhan o Gymru. Ti’n clywed lleisiau ac acenion gwahanol yn cynnwys dysgwyr a siaradwyr naturiol.
Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?
Maen nhw’n siarad Cymraeg y gogledd a’r de ar Gogglebocs Cymru. Mae ’na Gymraeg canolbarth Cymru a Wenglish hefyd.
Fyddech chi’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?
Mi faswn i’n awgrymu i bobl eraill wylio Gogglebocs Cymru yn bendant. Mae’r bobl arno fo yn bobl gyffredin fel ti a fi. Maen nhw’n ddoniol hefyd.
Mae ail gyfres Gogglebocs Cymru ar gael ar BBC iPlayer ac S4C Clic