Bu dathlu mawr ymysg aelodau o Gôr Glanaethwy wedi iddynt ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Rynglwadol Llangollen nos Sadwrn (6 Gorffennaf).

O dan arweiniad Rhian a Cefin Roberts, cyd-sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill y teitl yn Llangollen.

Maen nhw wedi bod yn perfformio ac yn cystadlu yn Eisteddfod Llangollen yn frwd ers 1992.

Dywedodd Rhian Roberts eu bod yn “gyffrous ac wrth ein bodd ac wedi synnu ein bod wedi ennill y teitl.

“Rydyn ni’n meddwl mai Llangollen yw’r lle gorau oll i gystadlu ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod yma.”

Côr y Byd

Ers ei gyflwyno yn 1987, mae Côr y Byd wedi ennill ei le fel pinacl sesiynau cystadleuol yr Eisteddfod ac wedi denu cantorion ledled y byd i gystadlu am Dlws Pavarotti mewn cyngerdd i gloi’r eisteddfod.

Caiff cystadleuwyr eu dewis i gystadlu yng nghystadleuaeth Côr y Byd o blith enillwyr pum prif gategori corawl yr eisteddfod sef siambr, cymysg, merched, meibion ac agored.

Bu Côr Glanaethwy yn fuddugol yng nghategori agored gan fynd ymlaen i gystadlu yn erbyn Cantamus Camerata o Brifysgol Talaith Oklahoma yn yr UDA, Tegalaw o’r Bala, Côr Meantime o Lundain ac Ensemble GC o’r Philipinau.

Taith theatrig ac arbrofol

Fe gyflwynodd Glanaethwy raglen o bedwar darn gan gyflwyno’r Mabinogi a Shakespeare wrth i’r tylwyth teg wahodd Llangollen i daith theatrig ac arbrofol.

Cafodd y côr wobr ariannol o £3,000 ynghyd â derbyn tlws Pavarotti.

Er eu llwyddiant ysgubol yn Llangollen, maent yn paratoi bellach ar gyfer eu cyngerdd blynyddol yn Theatr Seilo Caernarfon ar 15 Gorffennaf a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.