Bydd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer, yn ymweld â’r Senedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8) ble fydd yn cynnal trafodaethau am ddyfodol gwaith dur Port Talbot gyda Phrif Weinidog Cymru.

Bydd Syr Keir Starmer yn cwrdd â Vaughan Gething wrth i bryder barhau dros ddyfodol gweithwyr dur Tata, ble mae miloedd o weithwyr yn wynebu diswyddiadau.

Fe fu’r Ysgrifennydd Busnes newydd Jonathan Reynolds yn cynnal trafodaethau gyda Tata dros y penwythnos ac mae wedi dweud ei fod yn credu bod “cytundeb gwell ar gael” i’r safle ym Mhort Talbot. Ond rhybuddiodd y byddai technolegau newydd yn golygu cyflogi llai o bobol.

Cefndir

Fe gaeodd un ffwrnais chwyth wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl i un arall gau ym mis Medi, gan arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi uniongyrchol yn y de.

Mae adroddiad sydd wedi’i ryddhau i’r Bwrdd Pontio yn awgrymu y gallai’r ffigwr godi’n uwch o lawer – i hyd at 9,500 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae Tata yn dweud eu bod yn gwneud colledion o £1m y dydd.

Mae Llafur eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £2.5bn ychwanegol ar ben y £500m oedd wedi’i glustnodi gan y llywodraeth flaenorol.

Fe fu’r blaid yn galw ar Tata ers tro i beidio â gwneud penderfyniadau na fyddai modd eu gwyrdroi cyn etholiad cyffredinol.

Mae ymgynghoriad rhwng Tata ac undebau eisoes wedi dod i ben, ac mae’r cwmni’n benderfynol o fwrw ymlaen â’u cynlluniau i gau’r ddwy ffwrnais chwith cyn diwedd mis Medi.

Ar ddechrau’r mis, bu’n rhaid canslo streiciau arfaethedig yng ngwaith dur Port Talbot, oedd wedi arwain at Tata Steel yn dweud y byddai’n cau’r ddwy ffwrnais chwyth yn gynharach na’r disgwyl.

Cafodd y gweithwyr wybod y gallai’r safle gau ei ddrysau am y tro olaf erbyn Gorffennaf 7 o ganlyniad i’r streic.

Oherwydd y streic, dywedodd penaethiaid nad oedd sicrwydd y byddai digon o adnoddau ar y safle i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Roedd disgwyl i hyd at 1,500 o weithwyr fynd ar streic, sydd bellach wedi cael ei chanslo.

Eisiau ‘gwell bargen’

Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast cyn ymweliad Syr Keir Starmer, dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething fod y llywodraeth Geidwadol wedi bod yn “gystadleuydd ymosodol” yn hytrach na phartner.

Mae’n gobeithio y bydd y berthynas newydd yn gymorth i’r trafodaethau gyda Tata ac o “fudd gwirioneddol”.

“Mae Tata wedi bwrw ymlaen gyda llawer o’u cynlluniau ac rwy’n credu y gallwn fod yn hyderus yr oedd Tata eisiau cwblhau eu cynlluniau gyda chyn-lywodraeth y DU dal yn y swydd,” meddai wrth y BBC.

“Nawr mae yna lywodraeth wahanol gyda mandad gwahanol gyda mwy [arian] ar gael i gyd-fuddsoddi gyda’r cwmni.

“Fodd bynnag, mae hynny’n golygu ein bod ni eisiau gwell bargen na’r un oedd ganddyn nhw gyda’r Torïaid.”

‘Prawf enfawr cyntaf’

Yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dyma fydd y prawf gyntaf i’r llywodraeth newydd.

“Yr argyfwng dur yw’r prawf enfawr cyntaf i’r Llywodraeth Lafur hon yn y DU, a bydd y goblygiadau’n cael eu teimlo am genedlaethau,” meddai Andrew RT Davies.

“Hyd yn hyn yn ystod y cyfnod hynod ofidus hwn i ddur, yr oll mae Llafur wedi ei gynnig yw geiriau, pan mai’r hyn sydd ei angen ar weithwyr dur yw gweithredu.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud popeth yn eu gallu i achub swyddi yn ein cymunedau, a byddem yn cefnogi unrhyw gytundeb sy’n achub y swyddi hynny.”