Mae dyn 49 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes yn Llanelli.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes mewn tŷ yn Heol Bigyn yn y dref ddydd Gwener, 5 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth y ddynes ond fe fydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i’w hymholiadau barhau dros y dyddiau nesaf.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw.