Bydd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn ymweld â Chymru heddiw (dydd Llun) fel rhan o’i daith o gwmpas y llywodraethau datganoledig gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fe fydd Syr Keir Starmer yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething yn y Senedd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers iddo ddod yn Brif Weinidog, yn dilyn llwyddiant ysgubol Llafur yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (4 Gorffennaf).
Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod yn awyddus i wella’r berthynas rhwng llywodraeth San Steffan a’r gwledydd datganoledig.
Drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Vaughan Gething dywedodd mai ei flaenoriaeth yw “pobl a chymunedau Cymru” a chyfnod mwy llewyrchus “fel bod pobl yn gweld ac yn teimlo newid go iawn yn eu bywydau.”
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw am gyfarfod gyda Keir Starmer. Dywedodd ei fod yn croesawu’r bwriad i wella’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ond na fyddai’n bosib cyflawni hynny “oni bai bod safbwyntiau cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru yn cael eu parchu.”
Dywedodd bod angen eglurder ar faterion fel datganoli Ystadau’r Goron, datganoli cyfiawnder a phlismona, a fformiwla ariannu deg i Gymru.
Ar frig yr agenda fydd dyfodol gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.
Mae’r Ysgrifennydd Busnes newydd Jonathan Reynolds yn dweud ei fod yn credu bod “cytundeb gwell ar gael” i’r safle ym Mhort Talbot a dywedodd bod trafodaethau yn parhau gyda Tata ddydd Sul (7 Gorffennaf).