Wrth i Gabinet newydd Syr Keir Starmer gamu i mewn i Downing Street yr wythos ddiwethaf, fe gyhoeddwyd mai Jo Stevens yw Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru.

Yn gyn-lefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan a’r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerdydd, hi yw’r fenyw gyntaf o’r Blaid Lafur i fod yn Ysgrifennydd Cymru, a’r fenyw gyntaf i ddal y swydd ers 2012.

Dywed Jo Stevens ei bod yn “falch” o fod yn un o’r 11 o fenywod mewn Cabinet sy’n gosod targedau newydd.

‘Llywodraeth o wasanaeth’

Wrth drafod ei swydd newydd ar BBC Politics Wales ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 7), fe rannodd Jo Stevens rhai o’i blaenoriaethau cyntaf.

“Rydym yn mynd ati i weithio’n syth bin,” meddai.

“Siaradais gyda Phrif Weinidog Cymru fore ddoe a bydda i’n cwrdd ag ef yfory ac rydym yn symud ymlaen gyda chyflawni ein haddewidion i Gymru, dod â sefydlogrwydd, a chreu twf economaidd, fel ein bod ni’n gallu newid bywydau pobol am y gorau.

“Mi fydd hon yn llywodraeth o wasanaethu, llywodraeth Lafur o wasanaethu, a llywodraeth Lafur o gyflawni.”

Mae Jo Stevens eisoes wedi trafod y gwaith sydd o’i blaen gyda Phrif Weinidog Cymru, meddai ar wefan X (Twitter gynt).

“Da cael siarad â fy ffrind a’m cydweithiwr, Vaughan Gething, cyn mynd i gyfarfod cyntaf y Cabinet o’r llywodraeth newydd,” meddai.

“Rydym yn ailosod y berthynas rhwng ein llywodraethau, gan weithio gyda’n gilydd i uno ein gwlad a chyflawni dros Gymru a Phrydain.”

Pwy yw Jo Stevens?

Gyrfa gynnar

Ganwyd Jo Stevens yn Abertawe a chafodd ei magu yn yr Wyddgrug yn Sir y Fflint, ble fynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a chwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Jo Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobol gyda chwmni cyfreithwyr Thompsons Solicitors.

Gwleidyddiaeth

Etholwyd Jo Stevens fel Aelod Seneddol dros Ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro Jenny Willott, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe’i hapwyntiwyd yn gyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.

Yn ad-drefniant mis Hydref y flwyddyn honno, yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid, daeth yn Ysgrifennydd cysgodol dros Gymru.

Ymddiswyddodd mewn protest ym mis Ionawr 2017 er mwyn pleidleisio yn erbyn Erthygl 50.

Roedd Jo Stevens wedi cefnogi Keir Starmer yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2020.

Wedi hynny, cafodd ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Ym mis Tachwedd 2021, cafodd ei symud yn ôl i’w swydd fel Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru.

Yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2024, cafodd ei dewis i herio etholaeth newydd Dwyrain Caerdydd, ar ôl i Ganol Gaerdydd gael ei diddymu fel rhan o’r ffiniau etholaethol newydd.

Enillodd y sedd, gyda mwyafrif o 9,097 o bleidleisiau.

Beirniadaeth

Mae rhai wedi beirniadu penodiad Jo Stevens ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny’n bennaf oherwydd ei safbwynt ar alw am gadoediad yn Gaza.

Ym mis Tachwedd y llynedd, bu difrod i’w swyddfa yng Nghaerdydd gan brotestwyr oedd yn gwrthwynebu ei phenderfyniad i atal ei phleidlais yn San Steffan dros gadoediad yn Gaza.

Yn ystod y protest fe gafodd swyddfa Jo Stevens ei pheintio gyda phaent coch ac fe osodwyd posteri oedd yn cynnwys sloganau oedd yn dweud ei bod o blaid lladd plant yn Gaza.

Yn San Steffan yn gynharach yr wythnos honno, pleidleisiodd Jo Stevens, ynghyd â phob un ond un AS Llafur o Gymru, yn erbyn gwelliant yr SNP yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol, gan gefnogi galwad Llafur am “seibiau dyngarol” yn lle hynny.

“Jo Stevens, rydych chi wedi dod yn anghenfil moesol,” meddai Adam Johannes, sylfaenydd a chydlynydd grŵp Cynulliad y Bobl Caerdydd.