Elin Roberts, dadansoddwr geowleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis, sy’n trafod beth fydd effaith buddugoliaeth Llafur ar bolisi tramor y DU ac ar geowleidyddiaeth y byd… 


Mae buddugoliaeth Llafur yn argyhoeddi newid symbolaidd iawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae 11 o’r 22 o weinidogion Cabinet Starmer yn fenywod.

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y Deyrnas Unedig i gymaint o fenywod gael lle yn y Cabinet ac i’r wlad gael Canghellor benywaidd. Mae 96% o aelodau’r Cabinet wedi cael eu haddysgu mewn ysgolion y wladwriaeth – y nifer uchaf erioed i gael eu haddysgu mewn ysgolion y wladwriaeth ac nid mewn ysgolion preifat.

Dim ond 4% o’r Cabinet sydd wedi’u haddysgu mewn ysgol breifat, y nifer isaf erioed ers Cabinet Clement Attlee yn 1945 ble’r oedd 25% o’r Cabinet wedi eu haddysgu mewn ysgol breifat.

Er ein bod yn gweld newidiadau symbolaidd iawn i aelodau Llywodraeth y DU, pa newidiadau gallwn ddisgwyl gweld i bolisi tramor y DU a rôl y wlad o fewn geo-wleidyddiaeth y byd?

O fewn y dyddiau cyntaf yn y swydd, fe gyhoeddodd Keir Starmer ei fod yn rhoi stop i bolisi Rwanda gan ddweud fod y polisi o anfon mewnfudwyr yno yn rhy gostus ac nad yw’n atal mudo i Brydain. Cam sydd wedi cael ei gymeradwyo gan grwpiau hawliau dynol ar draws y byd.

Wrth edrych ar faniffesto’r Blaid Lafur, mae llawer o bwyslais i’w weld ar weithio ar gyfer diogelwch byd eang, diogelwch Ewrop ac i gryfhau NATO. Yn ogystal â hynny, mae cynllun i ehangu masnach tramor busnesau Prydeinig tra’n gweithio gyda phartneriaethau byd eang fel y WTO a’r OECD i foderneiddio masnach ryngwladol.

Hefyd, gwelwn fod cynllun i’r DU fod yn arweinydd hinsawdd drwy gyd-weithio gydag arweinwyr y byd i gefnogi gwledydd sy’n cael eu heffeithio gan newid hinsawdd tra hefyd yn awgrymu strategaethau i addasu i effeithiau newid hinsawdd. Cynllun arall y gwelwn ydi i’r DU gynyddu’r canran o gymorth datblygu rhyngwladol i 0.7% o’r cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP).

Trafod gyda Joe Biden a Volodymyr Zelenskyy

Ers i Keir Starmer ddechrau yn ei rôl, y trafodaethau cyntaf a gafodd gydag arweinwyr tramor oedd gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, ac Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy. Gyda Joe Biden, fe ategodd ei awydd i barhau i weithio gyda’r Unol Daleithiau ac i gryfhau’r berthynas rhwng y ddwy wlad. Yn achos Volodymyr Zelenskyy fe ategodd ei gefnogaeth i Wcráin yn y rhyfel yn erbyn Rwsia a thrafod ei strategaeth ar gyfer uwchgynhadledd NATO.

Mae Keir Starmer hefyd wedi galw am gadoediad ar unwaith ym Mhalestina yn ystod galwad ffôn gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu.

Ar wahân i’r camau a gymerwyd gan y Prif Weinidog, rydym hefyd wedi gweld yr Ysgrifennydd Tramor newydd, David Lammy yn gweithredu.

Yn ei ddatganiad dywedodd David Lammy y byddai’n canolbwyntio ar ailgysylltu Prydain gyda’r byd tra’n gweithio ar gynyddu diogelwch a ffyniant y wlad drwy ddechrau gweithio ar faterion yn ymwneud ag Ewrop, newid hinsawdd a chydweithio gyda’r De byd-eang (Global South).

Yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy yn cyrraedd 10 Downing Street. Llun@ Simon Dawson / No 10 Downing Street

Cefnogaeth y DU i Wcráin

Yn ystod ei ddiwrnod cyntaf fel Gweinidog Tramor, cafodd David Lammy alwadau ffôn  gyda’i gymheiriaid yn y gwledydd canlynol: Wcráin, Unol Daleithiau, Iwerddon, Emiradau Arabaidd Unedig, Ynysoedd y Cayman, a  Gaiana (Guyana).

Mae’r galwadau gyda Wcráin a’r Unol Daleithiau yn ategu cefnogaeth y DU i Wcráin yn y rhyfel yn erbyn Rwsia, cynllun y DU i wella diogelwch Ewrop, ac i barhau i gyd-weithio’n agos gyda’r UDA ar faterion diogelwch.

Er nad yw’r Llywodraeth Lafur am ail-ymuno gyda’r Undeb Ewropeaidd, mae David Lammy wedi dechrau agosáu gyda gwledydd Ewrop a hynny o fewn cyfnod byr o amser. Yn y misoedd cyn yr etholiad bu David Lammy yn ceisio agosáu ei hun gyda’r Llywodraeth yn Ffrainc wrth drefnu llawer o gyfarfodydd gyda’r llywodraeth, cyfranogi mewn digwyddiadau, ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer y wasg yn Ffrainc.

Cadw’r heddwch yn Iwerddon

Roedd ei alwad cyntaf gydag Iwerddon yn symbolaidd iawn i bwysleisio pwysigrwydd cadw’r heddwch yn Iwerddon tra hefyd yn ategu ei awydd i gydweithio’n agosach gyda’r UE – ei deithiau cyntaf dramor oedd i’r Almaen, Gwlad Pwyl, a Sweden. Mae hyn yn ategu awydd y DU i weithio’n agos iawn gyda’r UE ac i gryfhau’r berthynas gyda NATO.

Mae ei alwad gyda’r Emiradau Arabaidd Unedig yn dangos bod y DU eisiau chwarae rôl bwysig i greu heddwch a chael cadoediad yn y Dwyrain Canol. Caiff hyn ei ategu gan y ffaith bod Starmer wedi galw ar arweinydd Israel i ddatgan cadoediad ar unwaith.

Wrth siarad gydag arweinydd yr Ynysoedd Cayman, Juliana O’Connor-Connolly, sef tiriogaeth dramor Brydeinig – fe ategodd David Lammy ei gefnogaeth i’r ynys yn y Caribî i ymdrin â Chorwynt Beryl a hefyd i gefnogi ynysoedd bychan ar draws y byd i ddod yn fwy gwydn i newid hinsawdd.

Sgwrs symbolaidd gydag Arlywydd Gaiana

Sgwrs symbolaidd arall oedd gydag Arlywydd Gaiana (Guyana). Ar un ochr mae’n symbolaidd gan fod David Lammy yn ddinesydd o Gaiana gan fod ei rieni yn dod o’r wlad, ond mae hefyd yn symbolaidd yn geo-wleidyddol. Yn ystod y misoedd diwethaf mae llawer o densiynau wedi bod rhwng Feneswela a Gaiana wrth i arweinydd Feneswela, Nicolás Maduro, geisio hawlio fod ardal Essequibo o Gaiana yn rhan o Feneswela – a hynny oherwydd bod olew wedi cael ei ddarganfod yn yr ardal.

Wrth drafod gyda Gaiana, mae Lammy yn ymateb i hanes ei deulu ond hefyd yn dangos parodrwydd y DU i roi cymorth i Gaiana pe bai Maduro yn cynyddu’r tensiynau. Mae’n codi’r cwestiwn a fydd y DU yn fwy gweithgar yn Ne America o fewn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf?

Ers dechrau yn ei swydd mae e wedi bod yn siarad gyda Gweinidog Tramor India – partner hanesyddol y DU a phartner pwysig iawn yn Asia i gydbwyso dylanwad Tsieina o fewn yr ardal.

O ystyried dechreuad David Lammy yn ei swydd newydd, beth allwn ni ddisgwyl o ran polisi tramor y DU a rôl y DU yn y byd o fewn y misoedd nesaf?

Partner byd-eang

Mae dyddiau cyntaf David Lammy yn ei swydd yn dangos bod cryfhau cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd a chryfhau diogelwch Ewrop drwy NATO ar dop ei restr. Ar ben hynny, rydym yn gweld cynllun i gysylltu fwyfwy gyda’r de byd-eang sy’n cael ei ddangos gyda’i ymateb i gwestiynau am Balestina, ei gysylltiad gyda De America, y Dwyrain Canol ac yn Asia. Gwelwn gynllun i gyfyngu ar ddylanwad Rwsia a Tsieina wrth ddangos bod y DU yn ôl a’i bod yn bartner byd-eang ac yn bartner dibynadwy. Mae disgwyl gweld rhagor o gamau a chynlluniau ynglŷn a sut y bydd y DU yn dod yn arweinydd i fynd i’r afael a newid hinsawdd ac i gefnogi’r cenhedloedd sydd fwyaf mewn perygl o’i heffeithiau.

Bydd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn ddiddorol iawn i statws y DU ar lwyfan y byd. Ond, mae’n rhaid cofio y bydd sefyllfa gyllidol y DU yn pennu maint a llwyddiant polisi tramor David Lammy – yn enwedig wrth ystyried Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA).