Mae prosiect partneriaeth, Cwtch Mawr, wedi darparu dros 62,000 o eitemau hanfodol i bobl sydd mewn angen.
Cwtch Mawr yw’r banc bob dim cyntaf yng Nghymru ac mae’n rhoi cymorth i deuluoedd gadw dau ben llinyn ynghyd yn Abertawe.
Mae busnesau yn rhoi eitemau sydd ganddyn nhw dros ben i’r banc bob dim ac yna maen nhw’n darparu’r eitemau hynny’n rhad ac am ddim i bobl mewn angen.
Mae’r eitemau hyn yn cynnwys cynhyrchion glanhau, eitemau cartref, nwyddau ymolchi a dodrefn.
Cefnogi dros 15,000 o bobl
Yn ystod y ddau fis gyntaf ers lansio Cwtch Mawr fe gefnogwyd dros 15,000 o bobl a chynhaliwyd digwyddiadau cymunedol, cyrsiau coginio, digwyddiadau galw heibio a digwyddiadau dathlu fel Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Erbyn heddiw, mae gan Cwtch Mawr rwydwaith o 60 o bartneriaid cofrestredig sy’n casglu eitemau a roddwyd.
Gall gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau gyfeirio pobl i’r banc bob dim i gael cymorth.
Caiff ei redeg gan elusen Faith in Families o Abertawe gyda chefnogaeth Gordon Brown ac Amazon.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu’r prosiect gyda phartneriaid lleol fel Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl, Sefydliad Moondance a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cyfrannu at y prosiect hefyd.
“Enghraifft wych o wahanol sectorau yn cydweithio”
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol bod “llawer o bobl yn cael trafferth fforddio eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw, ac mae’n dda gweld sut mae Cwtch Mawr yn gallu helpu pobl drwy ddarparu llawer o hanfodion gwahanol, a hynny o dan un to.
“Mae hon yn enghraifft wych o wahanol sectorau yn cydweithio i gefnogi pobl yn eu cymunedau.”
Colli plentyndod
Ychwanegodd Cherrie Bija, Prif Weithredwr Faith in Families: “Nid argyfwng yw costau byw bellach.
“Mae wedi dod yn normal ac yn ffordd o fyw i filoedd o bobl yn ein cymunedau.
“Mae plant nid yn unig yn colli cyfle i gael ‘rhywbeth bach neis’ nawr ac yn y man, ond hefyd yn mynd heb bethau hanfodol fel dillad, esgidiau, teganau a bwyd iach.
“Gresyn bod hyn yn digwydd yn Abertawe yn 2024 – mae cymaint yn colli eu plentyndod.
“Mae Faith in Families – Cwtch Mawr yn camu i’r adwy gan ddarparu hanfodion o ansawdd, a hynny ar unwaith, er mwyn helpu teuluoedd i ddygymod â’u sefyllfa a ffynnu gobeithio, a hynny mewn partneriaeth unigryw gydag Amazon.
“Mae cymaint mwy o waith i’w wneud, ond mae’r cydweithio hwn yn digwydd ar raddfa enfawr ac yn ein galluogi i ddod ynghyd â channoedd o bartneriaid elusennol ar draws y rhanbarth i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i roi – cymorth nid cardod.”