Mae Canghellor newydd y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi mai ei blaenoriaeth fydd cryfhau’r economi a chadw trethi, chwyddiant a morgeisi mor isel â phosibl.

Mewn araith heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8) dywedodd Rachel Reeves y bydd y llywodraeth Lafur yn gweithredu ar unwaith i gryfhau’r economi, ailadeiladu gwledydd Prydain a gwella pob rhan ohoni.

Fe addawodd i arweinwyr rhai o ddiwydiannau’r DU i adeiladu twf ar sylfeini cadarn gan feithrin partneriaeth newydd gyda’r sector preifat.

Gan fynd i’r afael â’r etifeddiaeth economaidd “anodd” y mae’r llywodraeth hon yn ei hwynebu, ymrwymodd i weithredu ar unwaith i yrru twf economaidd parhaus.

“Penderfyniadau anodd”

Ymhlith ei haddewidion allweddol eraill, dywedodd Rachel Reeves y byddai’n barod i wneud “penderfyniadau anodd” fel Canghellor a “gwella sylfeini” economi’r DU.

Bydd y gwaharddiad ar ddatblygiadau ynni gwynt ar y tir yn cael ei ddileu a bydd penderfyniadau ar brosiectau mawr yn cael eu gwneud yn genedlaethol, yn hytrach nag yn lleol, meddai.

Dywedodd hefyd y bydd hi’n gosod dyddiad ar gyfer Cyllideb yr Hydref cyn toriad yr haf.

‘Does dim amser i wastraffu’

Fe addawodd Rachel Reeves y byddai ei llywodraeth hefyd yn adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi dros y pum mlynedd nesaf, fel yr addawyd ym maniffesto etholiad Llafur.

Dywedodd canghellor benywaidd cyntaf y DU y bydd Llafur yn creu tasglu newydd i “ddod â’r targedau tai gorfodol hynny yn ôl”.

“Felly mater i gymunedau lleol fydd penderfynu ble mae’r tai yn cael eu hadeiladu, ond mae’n rhaid eu hadeiladu.

“Mae’r llywodraeth Lafur hon wedi cael ei hethol ar fandad i gyflawni a chael Prydain i adeiladu.

“Gyda’r camau hyn rydym wedi gwneud mwy i hwyluso’r system gynllunio yn ystod y 72 awr ddiwethaf na wnaeth y llywodraeth ddiwethaf mewn 14 mlynedd.

“Does dim amser i wastraffu.”

Dywedodd y Canghellor newydd fod y llywodraeth eisoes wedi dechrau gweithio ar ei haddewidion tai drwy roi sêl bendith i adeiladu 14,000 o gartrefi newydd ar draws Dociau Canol Lerpwl, Caerwrangon, Northstowe a Langley Sutton Coldfield.

Addawodd y llywodraeth Geidwadol yn 2019 i adeiladu 300,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, gyda thargedau adeiladu gorfodol ar gyfer pob awdurdod lleol.

Ond cafodd hynny ei sgrapio ym mis Rhagfyr y llynedd.