Bydd canlyniad yr etholiad yn Ffrainc yn esgus i’r Arlywydd Emmanuel Macron ailuno’r wlad, meddai dadansoddwr geowleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis.
Mae disgwyl Senedd grog yn Ffrainc yn dilyn canlyniadau annisgwyl yn ail rownd y pleidleisio ddydd Sul (Gorffennaf 7).
Methodd yr un blaid a chael mwyafrif digonol i reoli gan fod angen ennill 289 o seddi ar gyfer mwyafrif absoliwt.
Roedd yr asgell dde yn gobeithio am fuddugoliaeth hanesyddol fel oedd wedi’i ragdybio gan arolygon barn.
Cynghrair y chwith, y New Popular Front (NFP), enillodd y fwyaf o seddi (187), gyda chynghrair Ensemble yr Arlywydd Macron yn ail (159).
Plaid asgell dde eithafol Marine Le Pen, Rassemblement National (RN), ddaeth yn drydydd gyda 142 o seddi.
Senedd grog
Er mai’r New Popular Front sy’n fuddugol o ran nifer y seddi, heb i unrhyw grŵp sicrhau mwyafrif gweithredol o 289 o seddi, bydd gan Ffrainc senedd grog.
Felly mae’r Arlywydd Macron wedi gofyn i’r Prif Weinidog presennol, Gabriel Attal, aros yn ei swydd am nawr er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i’r wlad.
Roedd Gabriel Attal eisoes wedi dweud y byddai’n cynnig ei ymddiswyddiad, gan ychwanegu ei fod yn barod i aros yn y swydd am gyfnod – ond dywedodd mai mater i’r arlywydd oedd penderfynu.
Yn ôl y dadansoddwr, Elin Roberts, mae nifer nawr yn disgwyl cyhoeddi clymblaid rhwng Ensemble a’r New Popular Front.
“Be welsom ni ar ôl y rownd gyntaf o’r etholiad oedd bod plaid Macron, Ensemble, a’r New Popular Front wedi creu strategaeth efo’i gilydd, hynny yw, os oedd eu hymgeisydd nhw’n dod yn drydydd, bysa nhw’n tynnu’r ymgeisydd yna allan i sicrhau mai dim ond un person oedd yn mynd i fyny yn erbyn y blaid asgell dde,” meddai Elin wrth golwg360.
“Yn y deuddydd nesaf, rydyn ni’n disgwyl i Macron ffurfio clymblaid efo’r New Popular Front o’r asgell chwith.
“Does yna neb yn gweld yr asgell dde yn gwneud clymblaid gan fydd neb eisiau gweithio efo nhw.
“Ond y cwestiwn efo hynny ydy, mae Macron eisiau sefyll ar gyfer yr arlywyddiaeth yn 2027, a be fydd dyfodol ei blaid o ar gyfer hynny?
“Mae yna lot fawr o gwestiynau ynglŷn ag a fydd o’n creu clymblaid neu beidio ond dyna mae pobol yn disgwyl i’w weld.”
Ond pa mor effeithiol fyddai clymblaid rhwng Ensemble a’r New Popular Front?
“Mae eu polisïau nhw’n eithaf gwahanol.
“Roedd be wnaethon ni weld yn ystod mandadau gyntaf Macron yn eithaf centrist ac asgell chwith.
“Ond efo’r ail rydan ni’n gweld ei fod o wedi symud at y canol ond yn fwy i’r asgell dde.
“Felly dw i’n meddwl os fyddan nhw’n creu clymblaid mi fydd o’n anodd ond mae yna fwy o siawns y byddan nhw’n gallu gweithio efo’i gilydd na bod Ensemble yn gweithio mewn clymblaid efo’r asgell dde.
“Dw i’n meddwl bod hyn yn esgus i Macron uno Ffrainc yn ôl at ei gilydd.”
Dathliadau ar draws y wlad
Wrth i’r nerfau setlo wedi canlyniad ail rownd yr etholiad, mae dathliadau wedi cymryd lle ar draws y wlad, meddai Elin.
“Roedd yr holl bolau piniwn yn dangos fod yr asgell dde yn mynd i ennill a doedd neb yn disgwyl y canlyniad yma felly mae o wedi dod fel sioc i bawb.
“Dw i’n meddwl bod pawb yn dathlu ar hyn o bryd.
“Dydy pobol ddim i weld yn poeni ddim mwy.
“Mae yna lot o bartïon dathlu wedi bod ar draws Ffrainc neithiwr ac yn y llefydd sydd wedi bod yn protestio’n eithaf cryf yn erbyn yr asgell dde.
“Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn poeni fod siawns i’r asgell dde rŵan.
“Does neb yn poeni y byddan nhw’n rhan o glymblaid, felly mae pawb yn gallu ymlacio, mewn ffordd.”