Bydd gwleidyddiaeth Cymru nawr yn swyno cynulleidfa sy’n siarad Almaeneg, a gyda Brexit wedi cael effaith ar yr Ewropeaid mae’n siŵr y bydd hon yn ffordd wych o ddangos bod mwy i’r DU na San Steffan.

Geiriau Emanuele Galloni, Prif Swyddog Gweithredol Videoplugger, yn 2020 ar ôl prynu cyfres Byw Celwydd Branwen Cennard a’r diweddar Meic Povey ar gyfer y cyfandir. Mi werthodd sioe sebon wleidyddol S4C (2016-2018) fel slecs i lefydd mor amrywiol ag America, Canada a De Affrica heb sôn am 13 o wledydd Ewrop. Doedd dim byd hynod o drwm na chymhleth amdani. Yn wir, roedd hyd yn oed swyddfeydd y pleidiau yn cynnwys codau lliw i’n hatgoffa pwy oedd pwy – addurn neu ddilledyn gwyrdd i’r Cenedlaetholwyr dan law Ffion ‘Gwallt’ Dafis, oren i Mark Lewis Jones a’r Democratiaid, glas i Richard Elfyn a oedd yn ei elfen fel yr hen gadno o Dori. Roedd y golygfeydd yn fyr a bachog, a’r newyddiadurwyr a’r sbin ddoctoriaid yn gwibio o un lle i’r llall i hel straeon os nad neidio i welyau ei gilydd. Rhyfedd meddwl bod giamocs clymblaid ym Mae Caerdydd wedi ennyn sylw rhyngwladol – ac eto, mae helyntion y byd politicaidd yn taro tant beth bynnag yw’r iaith. Mae llawer wedi canu clodydd rhai Americanaidd fel West Wing erioed, a House of Cards yn ddiweddarach cyn i fywyd personol trwblus Kevin Spacey roi’r farwol i’r gyfres. Ond yn bersonol, rhai Ewropeaidd sy’n denu.

Mae cyfresi o Ffrainc wastad yn apelio, ac roedd Les Hommes de l’ombre neu Spin (2012-16) ar Channel Four yn ffefryn cynnar, am argyfwng yn yr Élysée wedi i’r Arlywydd farw mewn ymosodiad hunanladdol wrth ymweld â gweithwyr ar streic, a rhai’n pwyntio bys at y prif weinidog presennol sy’n awchu am fwy o rym. Ond heb os, un o allforion y Llychlynwyr sy’n aros fwyaf yn y cof. Pwy feddyliai y byddai straeon am ddiwydiannu ffermydd moch yn apelio gymaint? Ond felly’r oedd hi gyda Borgen (2010-2020) a gafodd glod a bri rhyngwladol. Gwelsom Birgitte Nyborg yn llamu i’r brig fel Statsminister benywaidd cyntaf Denmarc ar draul ei bywyd teuluol, a’i haelodau staff fel Kasper a Katrine yn bargeinio â phleidiau eraill a hacs sianel newyddion TV1. Ychwanegwch sgôr gerddorfaol epig a lleoliadau chwaethus Copenhagen, ac roedd miliwn a mwy o wylwyr wedi’u hudo gan ddrama isdeitlog bob nos Sadwrn ar BBC Four.

Y diweddara sy’n denu ydi Pandora o Wlad Belg gan wasanaeth ffrydio Walter Presents/Channel Four. Ynddi, mae gwleidydd a barnwres yn mynd ben-ben â’i gilydd wedi ymosodiad rhywiol ym maes parcio aml-lawr pencadlys y darpar lywodraeth – ymosodiad a ffilmiwyd ar gamera ffôn a’i ryddhau i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gêm hela rhwng Mark Van Dyck AS a Claire Delval yn drydanol, ac yn gwneud i chi amau pa mor bell aiff rhywun i sicrhau cyfiawnder neu warchod enw da. Ceir awgrym o densiynau cyson rhwng carfanau Fflemeg a Ffrengig y wlad, a chyfeiriadau mynych at isadeiledd rhacs dinas Brwsel. Gyda theitlau cherddoriaeth agoriadol sydd gyda’r gorau a welais ers sbel, dylai hon fod ar frig eich rhestr wylio nesa’.