Dach chi’n chwilio am syniadau i gadw’r plant yn hapus ac yn ddedwydd dros wyliau’r haf? Does dim rhaid i chi fynd dim pellach na’ch llyfrgell leol na gwario ceiniog yn y broses, oherwydd heddiw (Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf) mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio ar draws Cymru.

Y syniad y tu ôl i’r sialens ydy annog plant i ymgolli mewn llyfrau dros wyliau’r haf.

Bydd pob plentyn rhwng 4-11 oed yn gallu mynd i’w llyfrgell leol, cofrestru ar gyfer y sialens, dewis chwe llyfr, ac unwaith fyddan nhw wedi cwblhau’r sialens, mi fyddan nhw’n ennill gwobrau ar hyd y ffordd, ac yn cael tystysgrif. Mae fersiwn ar-lein o’r sialens ar gael hefyd.

Thema’r sialens eleni yw ‘Crefftwyr Campus’ ac mae llyfrau newydd i’w darganfod, gan gynnwys rhestr newydd o lyfrau Cymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Y Cyngor Llyfrau sy’n gweithredu’r cynllun sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Ddarllen.

‘Cariad angerddol at lyfrau’

I nodi Sialens Ddarllen yr Haf, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu digwyddiad yn Llyfrgell Dinbych ddydd Mercher 10 Gorffennaf. Bydd yr awdur Leisa Mererid yn siarad am ei llyfr newydd ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ioga gyda phlant o’r ysgol gynradd leol, Ysgol Twm o’r Nant.

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle mae’r sialens “yn ffordd wirioneddol wych i blant ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad angerddol at lyfrau a fydd yn para am byth.”

Felly ewch a’r plantos lawr i’r llyfrgell – dach chi byth yn gwybod, efallai mai nhw fydd prif weinidog Cymru’r dyfodol!

Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrgell leol yma