Heddiw (Gorffennaf 5), mae’r grŵp poblogaidd Bwncath wedi cyhoeddi sengl drawiadol iawn, ‘Castell Ni’, a fideo a gafodd ei ffilmio gyda disgyblion ysgolion cynradd ardal Caernarfon.

Roedd y fideo wedi ei ffilmio ar fore Gŵyl Fwyd Caernarfon ond mae hanes y sengl yn mynd yn ôl ymhellach na’r diwrnod hwnnw.

Yn 2020 bu Elidyr Glyn, prif ganwr Bwncath, yn rhan o broject gydag Ysgol y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhostryfan ac Ysgol Rhosgadfan, yn sgrifennu cân yn seiliedig ar atebion y plant i gwestiynau ynglŷn â’u teimladau am hanes Caernarfon, gan ganolbwyntio ar y Castell. Uchafbwynt y project cychwynnol yma oedd mynd i Gastell Caernarfon i berfformio’r gân ar y cyd. Ar ôl y cyfnod clo, daeth cyfle i ymhelaethu ar y cywaith, wrth i’r band ddechrau ar y broses o recordio’r gân yn stiwdio Sain. Wedi hyn, yn 2023 cafodd holl blant ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon wahoddiad ddod i recordio’r gân yn Ysgol Syr Hugh Owen.

Y tro hwn, daeth dros 400 o ddisgyblion o ysgolion Bontnewydd, y Gelli, yr Hendre, Maesincla, Rhosgadfan, Rhostryfan a Santes Helen i gyd-ganu. I gloi’r holl broject, cafodd y plant wahoddiad i berfformio’r gân dros Bont yr Aber, gyferbyn a’r castell yng Nghaernarfon, ar fore’r Ŵyl Fwyd ar Fai 11 eleni.

Cafodd y cyfan ei ffilmio ar y ddaear ac o’r awyr, er mwyn creu fideo i gyd-fynd â chyhoeddi’r sengl. Mae’r fideo nawr ar gael ar YouTube. Jamie Walker sydd wedi cyfarwyddo a golygu, a Hedydd Ioan, gwneuthurwr ffilm lleol o Benygroes, sy’n gyfrifol am y gwaith camera. Yn ôl Bwncath, fe gawson nhw “brofiad bendigedig o recordio’r fideo gyda chymorth a chefnogaeth athrawon a rhieni’r plant.”

Profiad teimladwy rhiant

Fel un o’r rhieni hynny a fu’n gwylio eu plentyn yn ffilmio gyda Bwncath dros Bont yr Aber ym mis Mai, mae gwylio’r fideo gorffenedig, sydd yn un safonol tu hwnt, yn brofiad teimladwy iawn. Roedd rhywun yn synhwyro’r bore tanbaid hwnnw ym mis Mai fod yna rywbeth arbennig ar droed; yng nghyfarfod y grŵp cenedlaetholgar, gweithgar yma â phlant bach y fro, i ganu geiriau ystyrlon am eu tref yn y Gymraeg dan gysgod Tŵr yr Eryr. Ydi, mae gwylio’r fideo a chlywed y gân a’r geiriau hyderus yma yn brofiad teimladwy dros ben – i unrhyw un, heb sôn am riant.

Ond mae’r gan yn taro nodyn arall â ni fel rhieni sy’n bobol ddŵad (o Geredigion) i Gaernarfon. Mae’r dagrau’n powlio wrth glywed y plant yn canu geiriau fel y rhain: ‘Ac yna fe godwn ein tyrrau,/ Agorwn ein drysau i’r byd,/ Mae croeso’n y dre/ I bawb o bob lle,/ Dewch i ganu ynghyd…’ Mae ystyr dyfnach i’r geiriau hynny, wrth gwrs, yn y cyfnod ôl-Brecsit hwn, yn enwedig heddiw ar ôl clywed fod plaid Reform, sydd yn ymgyrchu yn erbyn agor drysau i ffoaduriaid, wedi dod yn ail mewn 98 o seddi drwy Brydain yn yr Etholiad Cyffredinol. Wedyn mae’r llinellau am barhad yr iaith, o enau’r plant bychain: ‘Ei hiaith yn llifo fel afon/ Rhwng ei muriau o hyd.’ Ac mae’n wir, mae’r iaith yn dal yma, ganrifoedd ar ôl i frenin Edward godi ei fwgan o gastell, i’w glywed ar dafodau’r cannoedd o blant a gafodd fod yn rhan o’r cywaith unigryw yma. Diolch i Bwncath am roi’r cyfle iddyn nhw.

Non Tudur

 

Geiriau’r gân ‘Castell Ni’

Yma mae ‘nghalon yn curo

Ac yma ’dw i’n troedio y stryd,

Dyma fy lle

Yma’n y dre’,

Dyma ganol fy myd.

 

Yma ma’n ffrindiau a’n nheulu

A ninnau’n un teulu i gyd,

Dyma fy llef

I bawb yn y dref;

Dewch i ganu ynghyd.

 

Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon,

Hon yw dinas fy myd,

Ei hiaith yn llifo fel afon

Rhwng ei muriau o hyd.

 

Ac ambell i dro fydda’ i’n cofio

Am boen yr holl frwydro a fu,

Ond dysgu a wnawn,

Defnyddiwn ein dawn

I ailgynnau ein ffydd.

 

Ac yna fe godwn ein tyrrau,

Agorwn ein drysau i’r byd,

Mae croeso’n y dre

I bawb o bob lle,

Dewch i ganu ynghyd.

 

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.

Adeiladwn ei thyrrau o’r llawr

yn awr yn gastell i ni.

 

Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon,

Hon yw dinas fy myd,

Ei hiaith, yn llifo fel afon

Rhwng ei muriau o hyd.

 

O caraf, mi garaf Caernarfon,

O mor werthfawr yw hi,

Mor glir â dŵr yr afon

Ydy hynny i mi.

 

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.

Adeiladwn ei thyrrau o’r llawr

yn awr yn gastell i ni.

Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon,

Hon yw dinas fy myd,

Ei hiaith, yn llifo fel afon

Rhwng ei muriau o hyd.

O caraf, mi garaf Caernarfon,

O mor werthfawr yw hi,

Mor glir â dŵr yr afon

Ydy hynny i mi.

 

Llywelyn Elidyr Glyn