Mae enillydd gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2024, gafodd ei threfnu gan golwg360, yn dweud ei fod “wrth ei fodd” â’r fuddugoliaeth.
Iwan Rhys ddaeth i’r brig yn dilyn pleidlais ymhlith darllenwyr y wefan hon, a hynny am ei gyfrol Trothwy.
Derbyniodd e’r wobr yn ystod seremoni arbennig yn Galeri yng Nghaernarfon neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 4).
Cadi Dafydd, Dirprwy olygydd golwg360, gyflwynodd y wobr
“Mae hon yn berthynas hirhoedlog ac rydyn ni’n falch o roi sylw i’r holl lyfrau ar y Rhestr Fer eleni,” meddai yn y seremoni.
“Mae hi’n gystadleuaeth agos iawn eleni, a dim ond dwy bleidlais sy’n gwahanu’r enillydd a’r sawl sydd yn dod yn ail.”
‘Anrhydedd’
Dywed yr awdur fod yr ymateb i Trothwy wedi “golygu gymaint” iddo, a’i bod hi’n “anrhydedd” derbyn gwobr Barn y Bobl.
“Dw i wrth fy modd o gael ennill gwobr Barn y Bobl,” meddai Iwan Rhys.
“Mae’n gymaint o anrhydedd.
“Ar ôl cyhoeddi Trothwy, dw i wedi cael sawl un yn cysylltu’n dweud eu bod nhw ddim wedi darllen llyfr Cymraeg ers blynyddoedd… ers gadael yr ysgol.
“Dw i’n sôn am gymuned Caernarfon, teulu a’r criw darts, felly maen nhw wedi gweld rhywbeth yn y llyfr yma dydyn nhw heb weld mewn llyfrau eraill.
“Ac mae cael ymateb gan bobol sydd wedi prynu llyfr Cymraeg am y tro cyntaf yn eu bywydau neu ers ysgol, ac wedi mwynhau’r llyfr a chysylltu, yn golygu gymaint i fi.
“Mae hyn wedi cael ei adlewyrchu heno yng ngwobr Barn y Bobl.”
Teulu, Twthill Vaults a Berlin
Mae’r llyfr yn sôn am ei fywyd gartref yng Nghaernarfon, yn symud i mewn gyda’i gymar a’i meibion.
Wrth dderbyn y wobr, gofynnodd yr awdur am ddwy eiliad i ôl un o gymeriadau’r llyfr a oedd wedi camu allan o’r theatr “am bach o chill”, sef ei lysfab, Macsen.
“Prif ysbrydoliaeth y llyfr, heb os, yw fy nheulu – fy ngwraig a dau o lysblant, Emil a Macsen.
“Y prif beth fyswn i’n dweud am y stori yw fi’n disgrifio’r broses o ddod yn rhan o’r teulu achos mae dod yn rhan o deulu fel llystad yn beth lled-unigryw falle.
“Ond mae yna gymaint mwy yn raddol yn cael y profiad fel teulu.
“Felly roeddwn i eisiau sôn am y profiad yna dros ychydig flynyddoedd o ddod yn rhan o’r teulu.
“Dw i’n plethu mewn i hwnna wedyn y tebygrwydd roeddwn i’n ei weld rhwng cael fy nerbyn yn nhafarn y Twthill Vaults, a hefyd achos o gysylltiadau’r teulu â”r Almaen – mae’r bechgyn yn hanner Almaenwyr – dw i wedi bod yn mynd â nhw i’r Almaen i Berlin.
“Yn raddol maen nhw’n dod i nabod Berlin fel fi’n dod i nabod y teulu ac fel fi’n dod i nabod y dafarn.
“Felly’r ysbrydoliaeth yw teulu, criw ffrindiau da yn y Twthill Vaults a dinas Berlin ei hun.”