Mae cipio teitl Llyfr y Flwyddyn 2024 yn “deimlad anhygoel”, meddai Mari George a ddaeth i’r brig gyda Sut i Ddofi Corryn.
Cafodd enw’r gyfrol fuddugol ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Galeri Caernarfon neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 4).
Enillydd y brif wobr Saesneg, wedi’i noddi gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yw Sarn Helen gan Tom Bullough, llyfr ffeithiol greadigol gafodd ei gyhoeddi gan Granta.
‘Breintiedig’ a ’diolchgar’
Er bod Mari George yn adnabyddus iawn fel bardd, ac am ei haddasiadau o lyfrau i blant, Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion.
Wrth fentro i faes newydd gyda’r nofel hon, dywedwyd o lwyfan y seremoni wobrwyo mai “awdur aeddfed a chynnil sydd wrth y llyw”.
“Mae o’n deimlad anhygoel,” meddai Mari wrth golwg360 ar ôl y seremoni.
“Alla i ddim credu’r peth.
“Dw i mor freintiedig a diolchgar i’r beirniaid am ddewis Sut i Ddofi Corryn fel y prif lyfr.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi bod eisiau sgrifennu nofel ers blynyddoedd ond ddim wir wedi cael y cyfle na’r amser i eistedd i sgrifennu.
“Ond yn ystod y cyfnod clo, wnes i deimlo bod rhywbeth gyda fi i ganolbwyntio arno fe felly wnes i ganiatáu awr neu ddwy’r dydd i fy hunan cyn i’r teulu godi, a meddwl: ‘Sgwn i os alla i sgrifennu nofel?’
“Wnes i benderfynu eistedd lawr, a do, fe ddaeth rhyw fath o ffurf ar nofel allan.”
Ysbrydoliaeth o’i theithiau
Mae’r nofel yn olrhain taith – neu deithiau – Muriel.
Mae un yn daith lythrennol o Gymru i Guatemala ar hynt cynhwysyn allai ddod â gwellhad i’w gŵr, Ken.
Mae’r daith arall yn un bersonol sy’n archwilio pryderon a gofidiau Muriel, ac yn un sy’n ei harwain at y darganfyddiad mai cariad yw’r cynhwysyn cryfaf oll.
“Es i deithio blynyddoedd yn ôl i de America i Guatemala a chadw dyddiadur.
“Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl fy mod i eisiau sgrifennu rhywbeth yn seiliedig ar y profiad felly roedd y syniad yna yn fy mhen i.
“Roedd salwch wedi bod yn y teulu hefyd…
“Ac mae gen i ddiddordeb mewn meddyginiaeth amgen hefyd a daeth y syniadau yma i gyd at ei gilydd, a rhywsut neu’i gilydd, creais i’r nofel a stori hollol boncyrs yma am fynd i Guatemala i ffeindio corryn.
“Dw i hefyd ofn corynod yn ofnadwy!”
Beirniadaeth
Yn ei beirniadaeth, dywedodd Nici Beech ei bod hi’n “dipyn o gyfrifoldeb” dewis enillydd ar gyfer y wobr ond bod y panel mewn “cytundeb llwyr” ar yr enillydd.
“Mae’r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg.
“O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei byd.
“Mae’n llyfr hudolus, sy’n darllen mor rhwydd ac mae cynildeb a dyfnder arbennig iddo sy’n cyffwrdd yr enaid ac yn aros yn y cof.”
Hanes y Wobr
Er bod y wobr yn bodoli ers yr 1960au, mae Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal a’i threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.
“A ninnau’n rhedeg gwobr Llyfr y Flwyddyn ers ugain mlynedd bellach, mae’n destun bleser gennym i weld yr amrywiaeth o awduron sy’n ennill y gwobrau – yn awduron sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf a’r llenorion toreithiog sy’n parhau i gyhoeddi perlau,” meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru.
“Un thema gyffredin eleni yw cymaint o awduron profiadol sydd yn arbrofi mewn ffurfiau newydd.
“Nid ar chwarae bach mae gwneud y naid hwnnw, ond mae Mari wedi dangos sut y gall un ffurf llenyddol gyfoethogi un arall.
“Mae ei dawn telynegol fel bardd yn llifo drwy Sut i Ddofi Corryn, a’i llinynnau storïol yn creu sidanwe gain.
“Mae’r nofel brydferth, gynnil hon yn un sydd am aros yng nghilfachau y cof.
“Llongyfarchiadau gwresog i Mari George – os nad ydych wedi darllen Llyfr y Flwyddyn 2024 eto, ewch amdani. Rwy’n siŵr y bydd yn eich swyno.”
Enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024:
Gwobr Ffuglen a Phrif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Y Wobr Farddoniaeth: Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Gwobr Barn y Bobl golwg360: Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Enillwyr y Wobr Saesneg:
Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Y Wobr Farddoniaeth: Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
Gwobr People’s Choice nation.cymru: In Orbit, Glyn Edwards (Seren)