Sut i Ddofi Corryn gan Mari George sydd wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.
Hon yw nofel gyntaf Mari George i oedolion, ac mae wedi’i chyhoeddi gan Sebra.
Cafodd enw’r gyfrol fuddugol ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Galeri Caernarfon heno (nos Iau, Gorffennaf 4).
Cafodd y seremoni ei ffrydio’n fyw i’r cyhoedd gan Cwmni Da ar wefan amam.cymru.
Enillydd y brif wobr Saesneg, gafodd ei noddi gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yw Sarn Helen gan Tom Bullough, gafodd ei chyhoeddi gan Granta.
Taith Muriel
Er bod Mari George yn adnabyddus iawn fel bardd, ac am ei haddasiadau o lyfrau i blant, Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion.
Mae’r nofel yn olrhain taith – neu deithiau – Muriel.
Mae un yn daith lythrennol o Gymru i Guatemala ar hynt cynhwysyn allai ddod â gwellhad i’w gŵr, Ken.
Mae’r daith arall yn un bersonol sy’n archwilio pryderon a gofidiau Muriel, ac yn un sy’n ei harwain at y darganfyddiad mai cariad yw’r cynhwysyn cryfaf oll.
Mae Mari George yn aelod o dîm Talwrn Aberhafren, a chanddi ddwy gyfrol o gerddi i’w henw.
Er ei bod yn mentro i faes newydd gyda’r nofel hon, dywedwyd o lwyfan y seremoni wobrwyo mai “awdur aeddfed a chynnil sydd wrth y llyw”.
“Mae’n dipyn o gyfrifoldeb i ddewis enillydd ar gyfer gwobr mor arwyddocaol, ond mae’n braf dweud ein bod, fel panel, mewn cytundeb llwyr ar yr enillydd,” meddai’r beirniad Nici Beech.
“Mae’r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg.
“O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei byd.
“Mae’n llyfr hudolus, sy’n darllen mor rhwydd ac mae cynildeb a dyfnder arbennig iddo sy’n cyffwrdd yr enaid ac yn aros yn y cof.
“Y nofel hon yw un o gyhoeddiadau cyntaf y wasgnod newydd, Sebra. Eu nod yw cyhoeddi llyfrau sy’n diddanu, yn herio ac yn cyflwyno safbwyntiau ffres a chyfoes fydd yn berthnasol i ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt.
“Maent yn gobeithio cyhoeddi gweithiau newydd fydd yn annog darllenwyr i gamu i’r annisgwyl.”
Gwobrau eraill
Yn ystod y Seremoni Wobrwyo, cafodd Mari George ei gwahodd i’r llwyfan yn gyntaf i gasglu’r Wobr Ffuglen Gymraeg, cyn dychwelyd i dderbyn Prif Wobr Gymraeg y noson, sy’n cynnwys cyfanswm o £4,000 a thlws wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu awduron talentog Cymru sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Plant a Phobl Ifanc.
Mae pob enillydd categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000.
Mae un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn, ac yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Ar y panel beirniaid Saesneg eleni mae:
- Dylan Moore, awdur, newyddiadurwr a chadeirydd PEN Cymru
- Patrice Lawrence, yr awdur, Cymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol a mentor profiadol
- Rachel Trezise, y nofelydd, dramodydd a chyn-enillydd Gwobr Dylan Thomas
- Pascale Petit, y bardd, nofelydd a chyn-gadeirydd Gwobr T.S. Eliot
Mae’r panel Cymraeg eleni yn cynnwys:
- Nici Beech, y cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac awdur
- Hanna Jarman, yr actor, cyfarwyddwr ac awdur
- Tudur Dylan Jones, y bardd ac uwch arholwr Llenyddiaeth CBAC
- Rhiannon Marks, yr awdur ac uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Hanes y Wobr
Er bod y wobr yn bodoli ers yr 1960au, mae Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal a’i threfnu gan Llenyddiaeth Cymru, yr elusen â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, ers 2004.
“A ninnau’n rhedeg gwobr Llyfr y Flwyddyn ers ugain mlynedd bellach, mae’n destun bleser gennym i weld yr amrywiaeth o awduron sy’n ennill y gwobrau – yn awduron sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf a’r llenorion toreithiog sy’n parhau i gyhoeddi perlau,” meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru.
“Un thema gyffredin eleni yw cymaint o awduron profiadol sydd yn arbrofi mewn ffurfiau newydd.
“Nid ar chwarae bach mae gwneud y naid hwnnw, ond mae Mari wedi dangos sut y gall un ffurf llenyddol gyfoethogi un arall.
“Mae ei dawn telynegol fel bardd yn llifo drwy Sut i Ddofi Corryn, a’i llinynnau storïol yn creu sidanwe gain.
“Mae’r nofel brydferth, gynnil hon yn un sydd am aros yng nghilfachau y cof.
“Llongyfarchiadau gwresog i Mari George – os nad ydych wedi darllen Llyfr y Flwyddyn 2024 eto, ewch amdani. Rwy’n siŵr y bydd yn eich swyno.”
Dyma enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024:
Gwobr Ffuglen a Phrif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Y Wobr Farddoniaeth: Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Gwobr Barn y Bobl golwg360: Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)
Enillwyr y Wobr Saesneg:
Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024: Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Y Wobr Farddoniaeth: Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy: Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)
Gwobr People’s Choice nation.cymru: In Orbit, Glyn Edwards (Seren)