Etholiad Cyffredinol 2024 – y pleidleisio

Golwg yn ôl ar ddigwyddiadau diwrnod yr etholiad

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi cyn ac yn ystod yr etholiad dydd Iau (Gorffennaf 4), gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

21:48

Mae’n blog byw yn parhau isod:

Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

21:47

Yn ôl Sara, mae’r ffeiliau coch ar y bwrdd yn cynnwys y papurau sy’n cael eu defnyddio gan y rhai sy’n cyfri’r pleidleisiau i wirio bod y rhifau’n adio i fyny.

21:36

‘Nôl yn Wrecsam. Dyma Ian Bancroft, Swyddog Etholiadau’r etholaeth, fydd yn cyhoeddi’r canlyniad ar ddiwedd y noson (tua 3 o’r gloch y bore).

Yn ôl Sara, mae e newydd gyflwyno’i hun i’r wasg sy’n aros yn eiddgar yno.

21:32

Yn y cyfamser, mae Rhys wedi cyrraedd y Fam Ynys. Mwy gan ein gohebydd gwleidyddol yn y man.

21:28

Ymhlith y staff eraill yn Wrecsam mae Richard Weigh a Karen Evans.

Maen nhw’n gweithio i’r Cyngor Sir, ond yn gwirfoddoli heno yn cofrestru ymgeiswyr ac asiantiaid wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r brif ystafell lle bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi.

21:24

Mae pethau’n prysuro draw yn Wrecsam, yn ôl Sara Louise Wheeler.

Ymhlith y wasg sy’n gweithio yn y brifysgol heno mae Saptha Sanjeen, myfyriwr MA Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caer. Yn newyddiadurwr yn Kerala yn India cyn dod i’r Deyrnas Unedig i astudio, mae wedi’i ddewis i ffilmio i Sky.

Mae ei bartner Yedh Ugokul, sy’n Gynorthwydd Gofal Iechyd, wedi mynd draw heno hefyd i helpu hefo’r camera a’r ochr dechnegol.

21:15

Mae Rhys Owen, ein gohebydd gwleidyddol, yng Nghlwb Hirael Bangor erbyn hyn, ac wedi bod yn siarad ag Azaz Ahmad, cefnogwr Plaid Hinsawdd, sy’n 26 oed.

Dw i’n edrych ymlaen at newid, ac yn bersonol dw i’n gweithio i’r Blaid Hinsawdd, sydd yn sefyll yma ym Mangor Aberconwy.

“Dw i’n gwneud fy ymchwil ar newid hinsawdd sydd yn effeithio hawliau dynol, a dw i’n credu bod maniffesto’r Blaid Hinsawdd yn dangos faint o bwyslais maen nhw’n ei roi ar y pwnc.

“O gwmpas y Deyrnas Unedig a’r byd, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd cyn ei bod yn rhy hwyr.

“Ddaru fi ddarllen pob maniffesto, a’r unig un ddaru wir fy ysbrydoli oedd yr un gan y Blaid Hinsawdd, hyd yn oed yn fwy na’r Blaid Werdd.

21:06

Dylan Wyn Williams, colofnydd golwg360:

A dyna ni. Mae’r aros bron ar ben. Wedi bwletinau newyddion braidd yn ddiddim drwy’r dydd, gyda lluniau o fawrion y prif bleidiau – a Nigel Farage – yn y gorsafoedd pleidleisio a #dogsatpollingstations yn trendio ar y gwefannau cymdeithasol, mi gawn ni wleidyddiaeth go iawn mewn rhyw awr. S4C gaiff y flaenoriaeth wrth gwrs, mewn darllediad ar y cyd â Radio Cymru eleni. Bydd Etholiad 2024 ymlaen o 9.55 yr hwyr tan 6 y bore yng nghwmni Bethan Rhys Roberts, Rhodri Llywelyn ym mhencadlys Sgwâr Canolog Caerdydd, ynghyd ag Elliw Gwawr a’r Athro Richard Wyn Jones. A dywedodd yr Athro y byddai yntau a Vaughan Roderick, ei seidcic ar bodlediad rhagorol Etholiad Vaughan a Richard, yn gorfod “rimembyr iôr Inglish” wrth bicied at Nick Servini ar BBC One Wales bob hyn a hyn. Ar y radio wedyn, bydd Kate Crockett a Gwenllïan Grigg yn gweini Dros Frecwast estynedig o 5 y bore tan 10 y bore.

Os am ddarlun Prydain gyfan, yna Laura Kuenssberg and Clive Myrie ar BBC Two.  Ar y drydedd sianel, bydd Election 2024 Live: The Results dan lywyddiaeth Tom Brady a Robert Peston yn croesawu’r cyn-wleidyddion George Osborne ac Ed Balls, a Nicola Sturgeon i blesio’r Sgotiaid. Mi fydd Guto Harri yn llais Cymreig unig ond awdurdodol yn eu canol nhw i gyd mae’n siŵr. Mae criw Sky News dan law Kay Burley yn brolio y bydd ganddyn nhw rith-stiwio o 10 Downing Street gyda fersiynau AI o Sunak, Starmer a hyd yn oed Larry’r gath. Wn i ddim a fydd Rhun ap Iorwerth yn eu plith. Ond ar bapur, mae Channel 4 yn ail agos iawn i S4C gyda lein-yp a hanner yn Emily Maitlis (gynt o Newsnight) a’r podledwyr Alastair Campbell a Rory Stewart yn gwmni i Krishnan Guru-Murthy. Fel mae’r teitl yn awgrymu, Britain Decides: The Rest is Politics & Gogglebox bydd rhai o gymeriadau’r gyfres llygaid-sgwâr yn mynegi barn ar yr ymgyrchoedd a fu. Falle bod S4C wedi colli cyfle i gynnwys criw Gogglebocs Cymru yn ei harlwy hithau. Neu hwyrach mai nhw sydd galla’ yn cysgu’n sownd yn lle ymateb i ganlyniad Aberafan-Maesteg am 4 y bore (sboilers: Llafur aiff â hi).

Amdani!

20:30

Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi dweud hyn wrth golwg360 heno:

“Mae hi wir yn fater o sawl sedd fydd Plaid Cymru a’r Torïaid yn gallu dal gafael arnyn nhw.

“Ar y cyfan, mae bron pawb yn derbyn mai Llafur fydd yn ennill, ond beth fydd maint eu mwyafrif? Yr adborth cynnar yw fod niferoedd da wedi troi allan. Mae’r tywydd wedi helpu, ac mae llawer o bleidleiswyr ifainc wedi troi allan, sy’n beth da i Lafur.

“Mae Sir Gaerfyrddin, Sir Drefaldwyn ac Ynys Môn yn agos iawn, iawn. Mae pob pleidlais yn cyfri!”

19:50

Mae Aled a Twm wedi bod draw i bleidleisio. Ydych chi a’ch ffrindiau pedair coes wedi bod draw i’r orsaf bleidleisio eto?