Bydd agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru’n agor y drws i gyflwyno mwy o gyrsiau yn y gogledd, yn ôl Arweinydd y Rhaglen Feddygol yno.

Rhoddodd y Cyngor Meddygol Cyffredinol eu sêl bendith i agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2024 yn ddiweddarach y mis hwn.

Fel rhan o’r broses gymeradwyo ar gyfer achredu ysgol feddygol annibynnol yn y gogledd, daeth panel arbenigol i ymweld â champws Prifysgol Bangor yn gynharach y mis hwn a chadarnhau bod yr Ysgol yn barod i recriwtio myfyrwyr.

Mae Prifysgol Bangor bellach wrthi’n recriwtio myfyrwyr ar gyfer mis Medi 2024, ac yn dweud bod hyn yn “gam arwyddocaol yn nhaith y brifysgol tuag at gael achrediad ffurfiol ar gyfer Ysgol Feddygol newydd gogledd Cymru”.

Mae’r brifysgol wedi bod yn darparu rhaglen Meddygaeth C21 Prifysgol Caerdydd yng ngogledd Cymru ers 2019, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a meddygon teulu o bob rhan o’r rhanbarth, a bu i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr raddio eleni.

Bydd y rhaglen newydd yn parhau i fod yn gydnaws â chwricwlwm meddygol rhaglen C21 Prifysgol Caerdydd, yn dilyn cefnogaeth gref gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer proses gymeradwyo a monitro’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Parhau mae’r gwaith o recriwtio ar Faes yr Eisteddfod, wrth geisio denu myfyrwyr a thrafod y pwysigrwydd o gadw graddedigion meddygol i weithio yn y gogledd.

Denu myfyrwyr yn yr Eisteddfod

“Y rheswm rydan ni yn yr Eisteddfod yr wythnos yma ydy i recriwtio myfyrwyr i ymgeisio i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar gyfer mis Medi 2024,” meddai Dr Nia Jones, arweinydd y Rhaglen Feddygol i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wrth golwg360.

“Rydan ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu dysgu 70% o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, fel mae’r cwrs yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

“Y fwyaf o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sy’n ymuno efo ni, y fwyaf byddwn ni’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae ein cleifion ni wedi dweud wrthym ni fod gallu siarad Cymraeg efo ein myfyrwyr neu eu meddygon teulu yn beth pwysig iawn.”

‘Pwysig’ cadw myfyrwyr ar ôl iddyn nhw raddio

Yn y gorffennol, mae myfyrwyr meddygaeth wedi gorfod astudio yn y de neu y tu hwnt i Gymru.

Ac er eu bod nhw’n gobeithio y bydd y cwrs yn denu myfyrwyr i’r gogledd, mae gwaith angen ei wneud er mwyn eu cadw nhw yno fel graddedigion, meddai Dr Nia Jones a Dr Elinor Chapman.

“Ein gobaith ni yw bod pobol am allu astudio yma, ac aros yma,” meddai Dr Elinor Chapman, Darlithydd ar y rhaglen.

“Gobeithio bydd mwy o bobol yn aros yng ngogledd Cymru ac yn defnyddio’r iaith pob diwrnod.”

Er eu bod nhw’n gobeithio y bydd y cwrs yn denu myfyrwyr i’r gogledd, mae gwaith angen ei wneud er mwyn eu cadw nhw yno fel graddedigion, meddai Dr Nia Jones.

“Rydan ni’n sôn am recriwtio myfyrwyr, recriwtio darlithwyr, recriwtio meddygon i’r gweithlu, ond yn y pen draw, rydan ni eisiau eu cadw nhw – a dyna sy’n bwysig.

“Ar hyn o bryd mae yna egni y tu ôl i’r ysgol feddygol sydd wedi’i danio, dw i’n teimlo, ac mae o wedi codi diddordeb ymysg bobol, ond rydan ni angen cadw’r graddedigion yn y gogledd.

“A’r ffordd byddwn ni’n gwneud hynny ydy ei wneud o’n le da i weithio.”

Ychwanega Dr Elinor Chapman fod yna “bethau’n newid ac mae yna swyddi’n dod i fyny yng ngogledd Cymru i hyfforddi hefyd, mewn pob mathau o feysydd”.

Denu arbenigwyr a chyrsiau newydd

Ar ben hynny, maen nhw’n gobeithio y bydd yr ysgol yn denu arbenigwyr o fewn meddygaeth yn ôl i’r gogledd er mwyn ymchwilio.

“Mae llawer o arbenigwyr yn dechrau trwy hyfforddiant yng ngogledd Cymru rŵan neu’n edrych ymlaen i gael hyfforddiant yng ngogledd Cymru,” meddai Dr Nia Jones.

“Gall yr ysgol feddygol hefyd agor y drysau i fwy o gyrsiau gyrraedd gogledd Cymru.

“Mae’r pethau mae deintydd yn astudio yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn yn debyg dros ben i be mae’r rhai ar y cwrs meddygaeth yn dysgu, felly bydd yna rywbeth i adeiladu arno yn y dyfodol.

“Mae o’n gyfnod cyffrous iawn.”