Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio addasiad arloesol i un o’u cynlluniau tai, er mwyn rhoi’r cyfle i ddod â hyd yn oed mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd ac i ddwylo trigolion lleol.
Mewn digwyddiad ar eu stondin yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, cyhoeddodd y Cyngor y bydd tai fu unwaith yn ail gartrefi bellach yn gymwys am grant prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gwag, gan ehangu’r opsiynau sydd ar gael i bobol leol gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol eiddo.
Mae’r cynllun ehangach i gynnig grantiau i adnewyddu tai gwag wedi bod yn weithredol yn ei ffurf bresennol ers 2021.
Daw’r addasiad hwn mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr ymgeiswyr sy’n methu bodloni’r meini prawf i dderbyn y grant.
Dydy perchnogion hen ail gartrefi ddim wedi bod yn gymwys ar gyfer y grant, er gwaetha’r ffaith eu bod nhw’n adeiladau segur.
Felly, er mwyn ymateb i’r diffyg hwn, mae’r Cyngor wedi penderfynu ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai segur fu unwaith yn ail gartrefi, hynny yw eiddo oedd yn arfer bod yn gymwys i dalu Premiwm Treth Cyngor.
Y sefyllfa yng Ngwynedd
Mae’n hysbys fod diffyg tai addas i bobol leol yng Ngwynedd, tra bod bron i 10% o holl dai’r sir yn ail gartrefi.
Mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd, mae’r ffigwr yn sylweddol uwch, megis Aberdyfi (43%), Trawsfynydd (42%) a Llanengan (39.8%).
Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yr opsiynau sydd ar gael i bobol leol gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol dai yn gyfyngedig iawn.
Hyd yma, mae tua 70 o brynwyr tro cyntaf o Wynedd wedi cael help i fyw yn lleol, diolch i’r Cynllun Grantiau Prynwyr Tro Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag, sy’n rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd.
Cafodd £4m ei glustnodi ar gyfer y cynllun hyd at 2026/27, ac mae 38 o grantiau gwerth oddeutu £500,000 eisoes wedi’u dyfarnu a 25 arall ar y gweill.
‘Perffaith synnwyr’
“Tra mae nifer bobl Gwynedd yn methu canfod eu tŷ cyntaf, mae cannoedd o dai yng Ngwynedd yn eiddo i berchnogion sydd eisoes â thŷ arall,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dai ac Eiddo.
“Ac yn aml iawn, mae ail dai yn wag am gyfnodau hir o’r flwyddyn a nifer mewn cyflwr gwael.
“Ochr yn ochr â hyn, mae 65.5% o boblogaeth Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, ac mae hynny gymaint â 96% mewn ardaloedd sydd â nifer o dai gwyliau.
“Mae gwneud cyn ail gartrefi yn gymwys i dderbyn y grant yma felly yn gwneud perffaith synnwyr, ac yn un ffordd arall y gallwn helpu trigolion Gwynedd gymryd y cam cyntaf i sicrhau cartref yn lleol.
“Mae’n bwysig nodi nad am y stereoteip tai haf sydd werth miliynau dan ni’n siarad amdanyn nhw yma, ond yn hytrach y tai teras, bythynnod ac ati sydd wedi’u gadael a’u hanghofio ac wedi mynd i gyflwr gwael dros amser.
“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n berchen ar dŷ a oedd yn arfer bod yn ail gartref gwag nes iddynt ei brynu, i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm Grantiau Tai Gwag y Cyngor am sgwrs.”
Grant “gwerth ei gael”
“Roedd y tŷ dwi wedi ei brynu arfer bod yn gartref i fy ffrind a dw i’n cofio chwarae yma’n hogyn bach,” meddai Siôn Taylor, derbynnydd cyntaf y grant ar ei newydd wedd.
“Gwerthwyd y tŷ ryw bymtheg mlynedd yn ôl ac aeth o’n ail gartref.
“Roedd o ar lefydd fel Airbnb, sy’n bechod gan fod gymaint o bobol ifanc, leol eisiau aros ac eisiau tŷ.
“Mae’r grant yn golygu gymaint i fi.
“Wnes i drio amdano fo pan brynais i’r tŷ a ges i fy ngwrthod.
“Ro’n i mor falch pan ddaeth y Cyngor yn ôl mewn cysylltiad i ddweud bod y telerau wedi newid.
“Mae o am fod yn help mawr cael ail wneud y tŷ a symud i mewn yn gynt. Fel arall, fysa wedi cymryd blynyddoedd i’w wneud o’n hun.
“Fyswn i’n argymell i rywun drio am y grant sydd yn yr un sefyllfa â fi, mae o werth ei gael.
“Cysylltwch efo’r Cyngor a gweld beth fedran nhw ei wneud i chi.”