Bydd y cyllid ar gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron yn gwella lefel yr amddiffyniad i fusnesau a chartrefi’r dref, ac yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal, yn ôl cynghorydd yng Ngheredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron.

Bydd y cynllun gwerth £31.59m yn cael ei ariannu drwy gyfraniad o £26.85m gan Raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad o £4.74m gan Gyngor Sir Ceredigion.

“Bydd gweithredu’r cynllun hwn yn gwella lefel yr amddiffyniad a roddir i’r nifer o fusnesau a chartrefi yn y dref a bydd yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon Cyngor Sir Ceredigion.

Mae swyddogion y Cyngor wedi datblygu’r cynllun dros gyfnod o bum mlynedd, gan weithio ochr yn ochr â’r ymgynghorydd Engineers Atkins i gynhyrchu cynllun fydd yn edrych ar:

  • amddiffyn yr arfordir rhag lefelau’r môr yn codi a stormydd
  • amddiffyn pobol ac eiddo rhag llifogydd
  • sicrhau rhanddeiliaid bod mesurau ar waith i atal llifogydd ac erydu arfordirol

Llifogydd ar hyd arfordir Aberaeron

Mae gan Aberaeron arfordir deinamig sydd â hanes o lifogydd a difrod gan stormydd.

Gyda dyfodiad newid hinsawdd a’r cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr, mae’r digwyddiadau hyn yn debygol o gynyddu o ran amlder a difrifoldeb.

Mae gwaith i amddiffyn Aberaeron rhag llifogydd arfordirol wedi cynnwys gwaith peirianyddol sylweddol gafodd ei gwblhau yn 2009 ar Draeth y Gogledd, oedd yn cynnwys codi wal fôr, adfer y traeth o’r newydd, a strwythurau rheoli glannau.

Mae’r gwaith hwnnw wedi bod o fudd sylweddol o ran diogelu rhan ogledd-orllewin y dref rhag gorlifo, ond dim ond rhan o’r broblem aethon nhw ati i’w datrys.

Mae Aberaeron yn agored i ystod eang o amodau tonnau o gyfeiriadau’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin, gyda thonnau yn mynd i mewn trwy fynedfa’r harbwr gan achosi gorlifo ar waliau’r harbwr, ac mewn amodau eithafol yn gorgyffwrdd â’r wal eilaidd fewnol.

Stormydd

Arweiniodd stormydd Rhagfyr 2013, Ionawr 2014 a Hydref 2017 at gau Pen Cei gan fod dŵr y môr yn gorlifo dros yr amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a’r traeth deheuol.

Pum elfen allweddol Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron yw:

  • adeiladu morglawdd creigiau newydd sy’n ymestyn allan o Bier y Gogledd
  • adnewyddu ac ailadeiladu pen pier Pier y De, gan gynnwys atgyweirio waliau
  • adeiladu wal gerrig a gwydr newydd ar hyd Pen Cei yn ogystal ag atgyweirio wal bresennol y cei
  • codi argae Afon Aeron rhwng cefn Y Seler a’r A487
  • adeiladu wal gerrig a gwydr newydd rhwng Pwll Cam a’r Seler
  • adeiladu llifddor yn harbwr mewnol Pwll Cam
  • gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De, gan gynnwys disodli’r grwynau pren presennol, disodli ac ymestyn y wal gynnal creigiau presennol a chynllun adfer y traeth o’r newydd

Contractwyr

Y contractwr gafodd eu penodi i ymgymryd â’r gwaith adeiladu yw BAM Nuttall Ltd, a gwblhaodd waith Traeth y Gogledd Aberaeron yn llwyddiannus yn 2009, ac a lwyddodd i gyflawni dau gam cyntaf Cynllun Amddiffyn Arfordirol Borth i Ynyslas yn 2012 a 2015.

Yn ôl y Cynghorydd Keith Henson, bydd y cynllun hwn yn gwella’r amddiffyniad rhag llifogydd.

“Mae lefelau’r môr sy’n codi a’r stormydd yn fygythiad difrifol i’n tref glan môr yn Aberaeron,” meddai.

“Bydd gweithredu’r cynllun hwn yn gwella lefel yr amddiffyniad a roddir i’r nifer o fusnesau a chartrefi yn y dref a bydd yn diogelu cymeriad unigryw a hanesyddol yr ardal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i swyddogion, ymgynghorwyr ac aelodau am eu diwydrwydd a’u horiau o waith caled dros y pum mlynedd diwethaf i gynhyrchu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir sy’n addas ar gyfer Aberaeron ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau.”

Yn ôl Elizabeth Evans, y Cynghorydd Sir dros Aberaeron ac Aberarth, mae hi’n falch fod y cynllun fydd yn sicrhau dyfodol mwy diogel yn dechrau oherwydd gwaith caled swyddogion Ceredigion.

“Rwy’n hynod falch bod y cynllun hwn bellach yn gallu dechrau,” meddai.

“Diolch o galon i swyddogion Ceredigion am eu hymrwymiad llwyr i gael y cynllun hwn dros y llinell derfyn.

“Mae trigolion a busnesau Aberaeron wedi bod yn amyneddgar iawn ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

“Bydd dyfodol Aberaeron nawr yn ddiogel, o ganlyniad i’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion.

“Allwn i ddim bod yn hapusach.”

Trafodaethau

Bydd trafodaethau nawr yn cael eu cynnal rhwng cynrychiolwyr y Cyngor, Atkins a BAM i gwblhau’r dyfarniad contract a’r rhaglen adeiladu ar gyfer y gwaith.

Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei gyflwyno’n raddol yn cael ei rhannu â rhanddeiliaid maes o law.