Ceisio cael gwared ar rwystrau sy’n atal pobol rhag ymweld â’r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yw’r swydd bwysig sydd wedi’i rhoi i Scott Thomas yn barod at y flwyddyn nesaf.
Yn ei swydd yn Swyddog yr Eisteddfod – Cydlynydd Ffrwd Gwaith y Gymuned, mae’n gyfrifol am hyrwyddo’r Brifwyl yn y sir, a chynnal trafodaethau gyda thrigolion lleol ynghylch yr hyn yw’r Eisteddfod a pham y dylen nhw ymweld â hi yn 2024.
Y rhwystr fwyaf sy’n atal pobol rhag ymweld â’r Eisteddfod yw’r gost, meddai.
Felly, drwy gydweithio â’r Eisteddfod a Llywodraeth Cymru, mae’r trefnwyr yn bwriadu creu pecyn fforddiadwy fel bod pobol y sir yn gallu ymweld â’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
‘Mae’r olwynion yn troi’
Dechreuodd Scott Thomas yn ei swydd yn 2020, cyn i’r Eisteddfod gael ei gohirio y flwyddyn honno.
“Fi’n cael sgyrsiau gyda phobol a ffeindio ma’s pam maen nhw byth wedi bod i’r Eisteddfod o’r blaen, a be’ sy’n poeni nhw os ydyn nhw yn mynd i’r Eisteddfod,” meddai wrth golwg360.
“Fi hefyd yn cael sgyrsiau gyda nhw am beth yw’r Eisteddfod; mae lot o bobol yn dal i feddwl mai dim ond dawnsio gwerin a’r Orsedd yw’r Eisteddfod.
“Ni’n trio torri lawr y stereoteip o beth yw’r Eisteddfod.
“Felly, ni’n trio dangos fideos iddyn nhw a chael sgyrsiau gyda nhw i esbonio, ‘Gallwch chi gael peint, gwrando ar gerddoriaeth, bwyd – mae yna rywbeth i bawb’.
“Mae pobol yn dechrau cynhesu wedyn i’r syniad o ddod i’r Eisteddfod.
“Mae’r olwynion yn troi a ni’n dechrau clywed pethau positif yn y gymuned, sy’n braf i’w weld.”
Argyfwng costau byw yn cael effaith
Yn ôl Scott Thomas, y rhwystr fwyaf rhag ymweld â’r Eisteddfod sy’n cael ei hadrodd wrtho fe yw’r gost.
“Fi’n deall – rydyn ni mewn argyfwng costau byw, a dyw e ddim yn rhad i ddod i’r gogledd i fynd i’r Eisteddfod am yr wythnos,” meddai.
“Ond pan mae’n dod i Rondda Cynon Taf, rydyn ni’n gweithio gyda’r Eisteddfod a Llywodraeth Cymru i greu pecyn i helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i ddod i’r Eisteddfod.
“Achos, os mae’r Eisteddfod yn dod i Rondda Cynon Taf a dyw pobol leol methu mynd – byddai hwnna’n ofnadwy.
“Ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y siawns i brofi’r Eisteddfod.
“Felly, ar hyn o bryd, rydyn ni’n ystyried cynnwys y pecyn a beth yn union fydd e’n edrych fel, ond yn y bôn, bydd e’n Docyn Maes ar gyfer y teulu, efallai, ac wedyn bydd yna docynnau i’r teulu wario ar y Maes.
“Bydd gennym ni docynnau tanwydd hefyd, gobeithio, achos mae’n grêt cael tocyn Maes, ond os wyt ti’n byw reit lan yn nhop y sir, mae bach yn anodd i ddod i lawr.
“Bydd yna hefyd bysiau, trenau, a fi’n siŵr y bydd y metro’n barod hefyd.”
‘Dim rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg’
Rhwystr arall mae Scott Thomas wedi ei gweld yn y gymuned yw fod pobol yn poeni am safon eu Cymraeg wrth ystyried ymweld â’r Eisteddfod.
“Maen nhw’n dweud: ‘Fi ddim yn siarad Cymraeg, fi methu mynd’,” meddai.
“Mae yna ofn yna.
“Ond beth fi’n dweud pan fi’n mynd allan i’r gymuned yw: ‘It’s not exclusive, it’s inclusive’.
“Fi hefyd yn dweud: ‘Use the Welsh you have instead of the Welsh you think you should have‘.
“Does dim rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg i fynd i’r Eisteddfod.
“Dyw Cymraeg neb yn berffaith.
“Ond os byddwn ni’n clywed lot o Saesneg o gwmpas y Maes y flwyddyn nesaf, bydd hwnna’n tic enfawr yn y bocs.
“Ni’n gobeithio fydd yr effaith yn mynd ymhellach hefyd, ac yn helpu y rheini i ddewis ysgolion cynradd i’w plant.
“Ni angen sicrhau bod pawb yn cael mynd, achos mae e mor bwysig.”