Mae un ddynes wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod hi “wedi blino clywed pobol yn cwyno am yr Eisteddfod”.

Mae Sheena R Williams yn teimlo ei bod yn fraint cael yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd, gan ganmol nifer o agweddau’r Brifwyl ym Moduan.

Teimla fod y ciwio yn rhan o’r Eisteddfod, a bod rhaid paratoi ar gyfer y tywydd, meddai ar y grŵp Facebook, Rhwydwaith Menywod Cymru.

“Mae rhai’n cwyno am bopeth wedi mynd,” meddai.

“Mae’n wych fod yr Eisteddfod yn ein bro…

“Da fod yna gymaint o fysus yn mynd ’nôl a blaen, arbed parcio.

“Wrth gwrs fydd yna giwio, yn enwedig ddiwedd nos, ar ôl sioe wych ar y Maes.

“Mwynhewch bawb yn y Maes, stondinau, grwpiau, cystadlaethau ac adloniant gwych, er y mwd, a dim allwn wneud am y tywydd.

“Paratowch at bob tywydd, welis a sandals, côt law ac eli haul.

“Ddaw’r Eisteddfod ddim mor gyfagos i ni eto am amser maith.”

Cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol

Ddoe (dydd Llun, Awst 8), dywedodd dynes arall fod ei hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn sgil “sefyllfa echrydus plot anaddas” ar faes carafanau a phebyll yn yr Eisteddfod.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd Sioned Roberts fod y mater wedi “trigro PTSD” ynddi, ac mae hi bellach yn galw am bwyllgor meysydd carafanau a phebyll a chynrychiolaeth ar y bwrdd.

Dywed fod Swyddfa’r Eisteddfod wedi bod yn ddigon ffeind efo hi, ac yn deall ei phroblemau iechyd meddwl, a chafodd hi gynnig symud i fan arall sydd, meddai, yn “anaddas”.

Dydy hi chwaith ddim yn hapus fod yr Eisteddfod am symud yn barhaol i Gaerdydd oherwydd ei bod yn credu nad yw’n deg ar bobol yn y gogledd.

Dywed fod yr Eisteddfod wedi ei “thorri hi eleni”, ac na fydd hi “fyth eto yn meddwl yr un fath am yr Eisteddfod”.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod.

Cwyno am gyflwr maes carafanau a phebyll yr Eisteddfod

Lowri Larsen

Mae Sioned Roberts wedi bod yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol fod y sefyllfa wedi gwaethygu ei hiechyd meddwl